Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 3 Ebrill 2019.
Credaf fod nifer o gwestiynau ychwanegol yno, Lywydd. Gallaf ddweud, fodd bynnag, ein bod eisoes wedi darparu data perfformiad. Caiff ei gyhoeddi, ac rwy'n fwy na pharod i ystyried eto os oes yna bethau y gallem eu gwneud yn y cyfamser. Ond fy nod yw cyhoeddi data rheolaidd ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl sy'n wirioneddol ddefnyddiol, ac er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid iddo gynnwys ymgysylltu ag amrywiaeth o bobl wahanol. Byddai'n llawer gwell gennyf gael rhywbeth sy'n ddefnyddiol na rhywbeth sy'n gyfleus neu'n gyflym.
Nawr, canolbwyntiodd y cyd-adolygiad thematig ar dimau iechyd meddwl cymunedol. Mae'n bwysig deall y galw cyffredinol am wasanaethau iechyd meddwl y cyfeiriwyd ato ar sawl achlysur yn y ddadl heddiw. Dengys data rheoli fod timau datrys argyfwng a thriniaeth yn y cartref wedi gweld cynnydd yn y nifer o atgyfeiriadau a nifer yr asesiadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, derbyniodd y gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol oddeutu 20,000 o atgyfeiriadau ar gyfer asesiadau argyfwng, ac ar gyfartaledd, ceir mil o atgyfeiriadau ychwanegol bob mis at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o gymharu â 2013. O ran gweithgarwch, mae dros 200,000 o bobl wedi cael eu gweld gan wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol ers eu cyflwyno, gyda 100,000 o bobl yn cael ymyriadau therapiwtig. Mae'r galw cynyddol hwnnw yn rhannol yn adlewyrchu gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl yn ein cymdeithas, ac yn rhannol y ffactorau ychwanegol sy'n ysgogi pobl i ofyn am fwy o gymorth ar gyfer nifer fwy, o bosibl, o achosion o heriau iechyd meddwl, a pharodrwydd i ofyn am help sy'n gadarnhaol mewn gwirionedd. Mae hyn hefyd yn ganlyniad i'n dull o ddarparu mwy o gymorth yn y gymuned. Gwelsom gynnydd yn yr angen am wasanaethau cymunedol, ac rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sydd angen eu derbyn i'r ysbyty.
I gydnabod y galw cynyddol, rydym yn parhau i wario mwy ar iechyd meddwl nag unrhyw ran arall o'n gwasanaeth iechyd gwladol. Rydym yn parhau i glustnodi cyllid ar gyfer iechyd meddwl. Mewn gwirionedd, gwyddom fod byrddau iechyd yn gwario mwy na'r hyn a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl, ac ers 2016-17, mae cynnydd o 12.5 y cant wedi bod yn yr arian a glustnodwyd. Yn y flwyddyn ariannol nesaf, bydd yr arian a glustnodir yn £679 miliwn—cynnydd gwirioneddol ac ystyrlon a pharhaus yn y cyllid. Ac mae hynny'n cynnwys £14.3 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad wedi'i dargedu ar gyfer gwella meysydd blaenoriaeth allweddol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a'r glasoed, therapïau seicolegol, amenedigol, argyfwng a'r tu allan i oriau. Ac ar wasanaethau argyfwng a thu allan i oriau, dyma un o brif flaenoriaethau GIG Cymru yn y flwyddyn i ddod. Mae'n adeiladu ar ein gwaith blaenorol yn sefydlu timau argyfwng CAMHS a gwasanaethau cyswllt seiciatrig i oedolion, sy'n gweithio ar benwythnosau a'r tu allan i oriau.
Nawr, rwy'n deall ac yn awyddus i gydnabod ac ailadrodd y sylwadau am barch cydradd rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl, ac i ailddatgan ymrwymiad ein Llywodraeth i gyflawni hynny—lefel gyfartal o ofal, boed ar gyfer iechyd corfforol neu iechyd meddwl.
Felly, rwy'n croesawu'r pwyslais parhaus ar iechyd meddwl. Edrychaf ymlaen at ymgysylltiad yr Aelodau yn y cam nesaf o 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r ymgynghoriad cysylltiedig. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau gwirioneddol a chynaliadwy yn y gwasanaethau, y profiadau a'r canlyniadau. A byddwn yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl, er mwyn cynnal gofal o'r ansawdd y byddai pob un ohonom yn ei ddisgwyl.