Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 3 Ebrill 2019.
Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, rwy'n symud i'r bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, un yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.