Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 3 Ebrill 2019.
Diolch yn fawr, Llywydd. Weinidog, yn eich cynllun gweithredu 'Cymraeg 2050' ar gyfer 2019-20, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, rydych yn cyfeirio at argymhellion a wnaed mewn gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen Cymraeg i Blant. Gobeithio y byddwch yn cadarnhau y byddwch yn cyhoeddi'r adolygiad rywbryd yn fuan. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd swyddogion Cymraeg i Blant yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu ac adolygu y WESPs, cyfarfodydd fforymau iaith lleol a chynllunio rhanbarthol y Mudiad Meithrin? A sut y clywir llais y plentyn yn y broses hon yn unol â'r confensiwn hawliau plant? A gaf i ofyn hefyd—? A oes risg fod rhai cynghorau yn parhau i ddibynnu ar grwpiau allanol tebyg—mae mentrau iaith yn esiampl arall—i gyflawni eu dyletswyddau eu hunain o dan safonau?