Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:29, 3 Ebrill 2019

Diolch, Llywydd. Pum mlynedd yn ôl, mi oeddwn i’n cynrychioli Cyngor Gwynedd ar fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd, sef y gymdeithas tai sy’n gyfrifol am reoli dros 6,300 o dai cymdeithasol Gwynedd. Mae mwyafrif helaeth staff y corff yn siaradwyr Cymraeg, mae’r Gymraeg yn iaith mwyafrif y boblogaeth y mae’r sefydliad yma’n ei gwasanaethu, ac mae pencadlys y corff yn un o gadarnleoedd y Gymraeg. Mae’r corff wedi ymrwymo i gynnal yr arfer o weinyddu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg ac i wneud y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn sgìl hanfodol ar gyfer pob swydd er mwyn gweithredu hynny. 

Yn 2014, fe wnaeth y bwrdd benderfynu bwrw ati, yn groes i gyngor Comisiynydd y Gymraeg, ac yn groes i gynllun iaith y sefydliad, i benodi i ddwy o brif swyddi'r corff heb ofyn am sgiliau Cymraeg, a hynny ar gyngor asiantaeth recriwtio o Leamington Spa. Mae yna gonsensws o blaid gweinyddu yn fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cyhoeddus yng Ngwynedd, ac mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol bod y Gymraeg yn cael ei chynnal yn iaith gwaith, ac yn iaith fyw, yn y rhannau yma o'r byd. Gan fy mod i'n gweld hynny i gyd yn y fantol nôl yn 2014, mi wnes i ymddiswyddo o'r bwrdd.

Rŵan, mae hi wedi dod i'r amlwg bod y corff yma unwaith eto yn recriwtio uchel swyddogion, efo cymorth asiantaeth o Birmingham y tro yma. Ac mae swydd dirprwy brif weithredwr, swydd sydd â chyflog o £105,000, wedi cael ei hysbysebu heb unrhyw ofyniad o ran gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg, dim ond 'dirnadaeth' o'r Gymraeg ac o ddiwylliant gogledd Cymru, beth bynnag ydy hynny.