Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 3 Ebrill 2019.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Cytunaf yn llwyr, a chredaf y ceir cytundeb cyffredinol ar draws y Siambr fod hon yn rhaglen werth chweil sy'n darparu manteision sylweddol i Affrica Is-Sahara, ac yn wir, i Gymru. Un agwedd bwysig ar hyn yw'r cysylltiadau rhwng cymunedau. Credaf fod gennym nifer calonogol iawn ohonynt yng Nghymru, ond yn amlwg, gellid ychwanegu atynt, Weinidog, a gellid dwysáu a chryfhau'r rhai sy'n bodoli'n barod. Felly, o ystyried pwysigrwydd agor Cymru i'r byd a'r byd i Gymru, a'r rhan arwyddocaol y mae'r cysylltiadau hyn yn ei chwarae wrth gyflawni’r uchelgais honno, a wnewch chi ystyried gwella argaeledd adnoddau a chyllid er mwyn cynyddu nifer y cysylltiadau, ac fel y dywedais, er mwyn cryfhau a dwysáu’r rheini sy'n bodoli eisoes?