Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 3 Ebrill 2019.
Yn sicr, rwy’n cydnabod pwysigrwydd cyrhaeddiad daearyddol, ac eto, yn amlwg, rwy'n mynychu gemau Morgannwg yn Llandrillo-yn-Rhos yn rheolaidd, ond fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef nad yw’n faes addas, gan fod y ffin, yn anffodus, braidd yn agos at y wiced, at y llain. Ond byddaf yn sicrhau bod y materion hynny’n cael eu trafod pan fyddaf yn cael fy nhrafodaethau â Morgannwg, a byddaf yn ceisio cyngor pellach ynghylch yr hyn sydd i weld yn fasnachol bosibl, heb wneud unrhyw ymrwymiadau ar unwaith ynglŷn â sut y dylem wneud hynny. Ond yn amlwg, mae dosbarthiad daearyddol criced, yn ogystal â dosbarthiad chwaraeon eraill yn y gogledd yn wir, yn dod a'r holl gwestiwn ynghylch dyfodol Parc Eirias yn ei ôl, gan fod materion yma lle credaf ein bod yn colli cynulleidfa fawr yng ngogledd Cymru, yn ogystal â chynulleidfa sylweddol a fyddai wrth ei bodd yn teithio o ogledd-orllewin Lloegr i leoliadau chwaraeon yng ngogledd Cymru.