Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 3 Ebrill 2019.
Diolch yn fawr. Rwy’n cyfarfod yn gyson gyda Gweinidogion er mwyn trafod eu cyfraniad at y nod o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg. Felly, ym mis Medi, fe wnes i gael cyfarfod gyda’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar y pryd i drafod cyfraniad y maes i’r nod yma.