Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 3 Ebrill 2019.
Wel, mae'n bwysig, o ran yr hyn a gynigiwn, ein bod yn cael hyn yn iawn o'r cychwyn cyntaf, oherwydd, yn aml iawn, bydd yn cael effaith ar ble fydd y plant yn y pen draw. Felly, rydych yn hollol gywir: mae angen i ni sicrhau bod yna gynnig cyfartal. Gwn mai Dechrau Disglair yw lleoliad gofal plant cyfrwng Cymraeg Dechrau'n Deg yn ardal Abertawe. Wrth gwrs, yr hyn rydym yn ei wneud yn awr yw ymestyn ein cynnig gofal plant, sydd ar gael yn Gymraeg wrth gwrs, a bydd hynny'n rhoi mwy o gyfleoedd i'r rhieni hynny sydd eisiau anfon eu plant i leoliadau cyfrwng Cymraeg. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi unrhyw fanylion i mi am enghreifftiau lle na welwyd darpariaeth gyfartal mewn perthynas â Dechrau'n Deg o ran pa iaith a ddefnyddir i addysgu pobl. Buaswn yn ddiolchgar i glywed hynny a gallaf basio'r wybodaeth honno ymlaen i fy swyddogion.