Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 3 Ebrill 2019.
Wel, ar hyn o bryd, beth rŷm ni'n gobeithio ei wneud yw sicrhau bod y llinell gymorth yna yn dechrau tu fewn i Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae'r ymgyrch farchnata yna—bydd hwnna'n dechrau cyn bo hir. Ond mae gyda ni gomisiynydd newydd sydd wedi dechrau'r wythnos yma, a dwi'n gobeithio y bydd y cydweithrediad yna rhwng Llywodraeth Cymru a swyddfa'r comisiynydd yn rhoi'r cyfle inni sicrhau ein bod ni lot yn gliriach ynglŷn â phwy sy'n gwneud beth o ran busnesau. Dwi'n meddwl bod yna le inni geisio gweld a oes yna ffordd inni gydweithredu yn well. Dwi ddim yn meddwl bod dim byd yn y Mesur yn atal y comisiynydd rhag mynd i mewn i'r maes yma, ond beth rŷm ni wedi bod yn poeni amdano yn y gorffennol yw'r ffaith bod y comisiynydd wedi bod yn canolbwyntio gormod, efallai, ar y safonau ac ar blismona yn hytrach nag ar hybu ac ar hyrwyddo. Byddwn i'n gobeithio yn y dyfodol bydd yna gamau yn cael eu cymryd i fynd i mewn i'r maes yma'n fwy gan y comisiynydd.