Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 3 Ebrill 2019.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rydym wedi cael ambell i ddadl yn ddiweddar am rygbi, sydd bob amser yn bwnc diddorol. Fodd bynnag, mae'r tymor criced yn dechrau ymhen wythnos, felly rwy’n awyddus i roi sylw i hynny heddiw. Nawr, fel y gwyddoch, mae Morgannwg wedi wynebu anawsterau ariannol dros y blynyddoedd diwethaf. Wrth gwrs, fe ddaethant i gytundeb â bwrdd criced Lloegr i beidio â chynnal gemau prawf rhwng 2020 a 2024 yn gyfnewid am becyn iawndal sydd wedi helpu eu sefyllfa ariannol i raddau. Ond beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod criced rhyngwladol yn dod i Gymru dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt?