Mynediad i Ystâd y Cynulliad

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:16, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Os gallech roi dwy eiliad i mi ddal i fyny gyda fy ngwaith papur ar hyn, os gwelwch yn dda.

Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau mynediad at ystâd y Cynulliad ar gyfer pobl anabl, ac nid yw hyn wedi'i gyfyngu i hygyrchedd cadeiriau olwyn yn unig ond ar gyfer anableddau eraill hefyd, megis y rheini sydd â nam ar eu golwg a'r rheini sydd ag awtistiaeth. Rydym yn parhau i adolygu hygyrchedd pob adeilad a gwneir asesiadau effaith cydraddoldeb cyn mynd ati i ailwampio neu i gyflawni unrhyw welliannau. Rydym yn cydymffurfio â deddfwriaeth, wrth gwrs, ac yn dilyn canllawiau arferion gorau hefyd.