Mynediad i Ystâd y Cynulliad

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:18, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, diolch i'r Aelod am ddod â'r materion hynny i sylw'r Comisiwn, a phan gawn ragor o wybodaeth gennych, gallaf eich sicrhau y byddwn yn ymchwilio i'r mater hwnnw'n llawn. Gwyddoch ein bod yn darparu parcio i bobl anabl ym maes parcio Tŷ Hywel a'r Senedd, ond yn amlwg gallasem adolygu'r rheini i weld a ydynt yn ddigonol bellach. Mae'n rhaid i mi ddweud bod adeilad y Senedd, ers ei sefydlu, wedi'i gynllunio ar gyfer pobl anabl. Ond wrth gwrs, mae pethau'n symud yn eu blaenau a byddwn yn sicr o groesawu cyfleusterau ychwanegol os yw hynny'n bosibl.