Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 3 Ebrill 2019.
Diolch i chi, Weinidog. Rwy'n pryderu'n fawr fod cyfyngiadau'n parhau i fod yn angenrheidiol yn yr unedau cleifion mewnol CAMHS yng Nghymru, sy'n golygu nad ydynt yn gallu gofalu am bobl ifanc sydd mewn perygl o hunan-niweidio neu gyflawni hunanladdiad. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi galw unwaith eto am gamau gweithredu ar hyn yn eu hadroddiad ar wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac wrth wneud hynny, maent wedi pwysleisio eu bod wedi bod yn codi'r pryderon hyn ers mor bell yn ôl â 2013. Mae fy mhwyllgor wedi bod yn codi hyn gyda Llywodraeth Cymru ers ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl' y llynedd.
Rwy'n deall bod llawer mwy o bobl ifanc yn cael eu trin gan dimau yn y gymuned bellach, ond mae yna rai, serch hynny, sydd angen mynd i uned ar gyfer cleifion mewnol. Ac ni all fod yn iawn fod rhai o'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yn gorfod cael eu lleoli y tu allan i Gymru, ymhell oddi wrth eu teuluoedd a chymorth. Mae hefyd yn codi cwestiynau difrifol ynglŷn â sut yr awn ati mewn modd effeithiol i sicrhau ansawdd a diogelwch lleoliadau o'r fath, sy'n gallu bod cannoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Weinidog, pryd y gallwn ddisgwyl i'n hunedau cleifion mewnol fod mewn sefyllfa i dderbyn pobl ifanc sydd mewn perygl o hunan-niweidio neu gyflawni hunanladdiad? Yn y cyfamser, pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni fod prosesau cadarn a chynhwysfawr ar waith i sicrhau bod unrhyw leoliadau y tu allan i Gymru yn ddiogel ac o ansawdd da? Ac yn olaf, o ystyried nad yw rhagweld y perygl y bydd rhywun yn cyflawni hunanladdiad yn wyddor fanwl, yn enwedig mewn person ifanc, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd claf ifanc nad yw wedi'i nodi fel claf risg uchel yn cael gofal diogel yn ein hunedau cleifion mewnol CAMHS?