7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Gweithredu Datganoli Cyllidol yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:45, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

'Ar amser, o fewn y gyllideb, ac mewn modd llwyddiannus.'

Nid ydym bob amser yn clywed y disgrifiadau hynny o brosiectau. Roedd hwn yn hynod o—. Nid oes gennyf lawer i'w ychwanegu, mewn gwirionedd, at yr hyn a ddywedodd Cadeirydd y pwyllgor. Roedd hwn yn ymchwiliad diddorol iawn i fod yn rhan ohono. A gaf fi ddiolch hefyd i'r tystion a ddaeth ger bron yr ymchwiliad? Rwy'n credu ein bod wedi llwyddo i gyflawni adroddiad amserol ac effeithlon iawn nad yw ond yn cynnwys tri argymhelliad, ond maent yn dri argymhelliad pwysig. Fel y dywedais yn gynharach mewn cwestiynau cyllid i'r Gweinidog, mae'n hawdd iawn datgan ar hyn o bryd fod pob dydd yn dyngedfennol mewn perthynas â datganoli ariannol, oherwydd mae rhywbeth yn digwydd bob dydd. Ac rwy'n deall mai 6 Ebrill yw'r dyddiad go iawn pan fydd y gyfradd Gymreig o dreth incwm yn dod yn weithredol. Mae'n amlwg mai dyma'r broses bwysicaf y bu'r Cynulliad drwyddi, os nad ers dyfodiad datganoli, yn sicr ers dyfodiad pwerau pellach yn ôl yn 2011. Felly, mae'n amlwg yn bwysig i ni ei gael yn iawn, a gwn mai dyna oedd bwriad pawb ar y pwyllgor.

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y tri argymhelliad—maent yn eithaf syml. Os gallaf droi at argymhelliad 3 yn gyntaf, o gofio rhai o bryderon y Ffederasiwn Busnesau Bach a godais yn gynharach ynghylch diffyg ymwybyddiaeth busnesau o ddatganoli'r dreth stamp a'r dreth gwarediadau tirlenwi, mae'n amlwg yn bwysig fod pobl yn ymwybodol o ddatganoli treth incwm y mis hwn, ar 6 Ebrill, a'r hyn y mae'n ei olygu iddynt hwy. Fel y dywedodd y Cadeirydd, roedd yn peri gofid fod rhai pobl yn meddwl y byddent yn gorfod talu 10c yn ychwanegol ar ben cyfradd y DU o dreth incwm. Credaf y byddai hynny'n achosi mudo torfol ar draws y ffin o fewn ychydig fisoedd. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru, a phob un ohonom mewn gwirionedd, wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod pobl yn deall hyn yn iawn. Ond ar yr un pryd, mae hon yn broses gymhleth, ac i'r bobl nad ydynt yn ymwneud â threfniadau trethu o ddydd i ddydd, mae'n amlwg yn rhywbeth sydd angen ei egluro.

Mae argymhelliad 2 yn ymwneud â throsglwyddo gwybodaeth o fewn Awdurdod Cyllid Cymru, ac mae hyn yn bwysig os yw'r sefydliad nid yn unig i oroesi yn awr, ond i'w gryfhau yn y dyfodol, fel y byddai pawb ohonom am ei weld. Mae angen inni recriwtio, datblygu a chadw sgiliau sy'n ymwneud yn benodol â'r dreth—i ddyfynnu o'r adroddiad—yng Nghymru. Gadewch inni ei wynebu; nid ydym wedi bod angen y dyfnder hwn o allu yma cyn hyn. Mae'n arloesol ym mhob ystyr. Ond mae angen inni ei wneud yn awr. Ac mae hynny'n berthnasol i fwy nag Awdurdod Cyllid Cymru; mae'n berthnasol hefyd i Lywodraeth Cymru. Mae angen inni gael mwy na gwybodaeth am drethiant; mae angen inni gael gwybodaeth economaidd a gallu i lunio rhagolygon treth a llunio rhagolygon economaidd yn ogystal.

Nid yw pennod 5 yr adroddiad yn dod i ben gydag argymhelliad mewn gwirionedd, mae pennod 5 yn trafod trethi newydd. Bwriad yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol i roi prawf ar y mecanwaith ar gyfer datblygu treth newydd—rwy'n tybio bod y Gweinidog presennol wedi etifeddu'r bwriad hwnnw. Efallai y gall egluro hynny. Rwy'n falch fod y Pwyllgor Cyllid i'w weld yn barod i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu unrhyw drethi newydd, yr un gyntaf ac unrhyw drethi sy'n dilyn. Fel gyda threth incwm, fel y dywedais yn gynharach, mae'n amlwg yn bwysig inni gael y broses hon yn iawn, yn enwedig gan nad yw wedi ei wneud o'r blaen. Gallai trethi newydd effeithio'n eithaf sylfaenol ar yr economi yn awr ac yn y dyfodol, i fynd yn ôl at y mecanwaith ar gyfer llunio rhagolygon y dywedais fod angen i Lywodraeth Cymru ei ddatblygu.

Gan ddychwelyd at weithrediad presennol y gyfradd dreth incwm yng Nghymru, mae angen inni gadw llygad ar y costau trawsnewid disgwyliedig. Rhagwelir y byddant yn £5 miliwn i £10 miliwn, gryn dipyn yn llai na'r £20 miliwn i £25 miliwn a ragwelwyd yn wreiddiol ar gyfer yr Alban—neu a ddigwyddodd yn yr Alban, dylwn ddweud. Y rheswm, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yw y gall y Cynulliad ddefnyddio'r system a ddatblygwyd ar gyfer yr Alban. Nawr, gadewch i ni obeithio bod hynny'n wir. Mae'n debyg y bydd yn wir, ond ar yr un pryd, fel y clywn yn aml mewn dadleuon yn y lle hwn, nid yw Cymru a'r Alban yr un fath, ac felly gallai fod costau annisgwyl nad ydym yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd. Felly, fel y dywedodd y Cadeirydd, mae angen i ni gadw hyn oll dan arolwg, ac mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr fod y mecanwaith ar waith os aiff unrhyw elfen o hyn o chwith, fel bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r problemau ar y cyfle cynharaf fel bod modd rhoi sicrwydd i'r cyhoedd fod datganoli trethi yn mynd rhagddo fel y dylai.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, costau ffiniol. Mwy na thebyg y bydd Mike Hedges yn sôn am y rhain. Pe bai fy nghyn gyd-Aelod diweddar Steffan Lewis yma, byddai ef wedi sôn amdanynt yn ogystal. Arferai gynhyrfu ar y pwyllgor pan fyddem yn siarad yn ddiddiwedd am y ffin. Dywedai fod ffiniau'n gweithio mewn mannau eraill yn y byd ac nad oes unrhyw reswm na allant weithio yma yn ogystal. Mae'n debyg ei fod yn llygad ei le ar hynny. Ond bydd cost i faterion fel gwaith mapio cymhleth o ffin Cymru a bydd angen edrych ar hynny. Ni chafodd ei wneud yn effeithiol o'r blaen, oherwydd nad oedd yn angenrheidiol, ond gan ein bod bellach yn teithio ar hyd y ffordd hon, mae angen ei wneud yn y dyfodol. Ond rwy'n falch o fod wedi bod yn rhan o'r ddadl hon.