Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 30 Ebrill 2019.
Diolchaf i David Melding am hynna. Rwyf yn ymwybodol o'r mater, yn wir, ac o hanes y clwb, o ran yr esiamplau y mae wedi eu cyflenwi a'r gwaith y mae'n ei wneud ym myd nofio ar lawr gwlad hefyd. Credaf fod yr awdurdod lleol yn dal i fod mewn trafodaethau gyda'r clwb, gan chwilio am ffordd i ddatrys rhai o'r problemau y mae'r clwb wedi eu nodi.