1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 30 Ebrill 2019.
2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau hamdden? OAQ53769
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Hyd yn oed ar ôl degawd o gyni cyllidol, mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol trwy gyllid refeniw a chyllid cyfalaf at ddibenion hamdden. Cyhoeddwyd gwerth £5 miliwn o gyfalaf ychwanegol gennym yn gynharach eleni, drwy Chwaraeon Cymru, i gefnogi datblygiad cyfleusterau hamdden ledled ein gwlad.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod gwasanaethau hamdden neu ganolfannau hamdden sydd wedi eu trosglwyddo i ymddiriedolaethau elusennol annibynnol yn gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi annomestig, er nad yw hynny'n wir ar gyfer y rhai a gadwyd gan gynghorau. Mae hyn yn golygu bod ymddiriedolaethau hamdden, ledled Cymru, yn cael rhyddhad ardrethi o tua £5.4 miliwn, tra bod awdurdodau lleol yn talu tua £3.1 miliwn. Mae hyn yn amlwg yn annheg, a gwn fod y Gweinidog cyllid eisoes wedi cytuno i gyfarfod â chynrychiolwyr o'm hawdurdod lleol i, Rhondda Cynon Taf, i drafod yr anghysondeb hwn ymhellach. Fodd bynnag, pan fo'r canolfannau a'r gwasanaethau hyn mor bwysig o ran gwella iechyd a llesiant, a all Llywodraeth Cymru ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau tegwch yn hyn o beth?
Wel, Llywydd, a gaf i ddechrau trwy gytuno â'r hyn a ddywedodd Vikki Howells am bwysigrwydd chwaraeon a hamdden i wella iechyd a llesiant? Roedd yn bleser arbennig cael bod gyda hi ym mis Mawrth wrth agor Ysgol Gynradd Cwmaman, ac un o'r pethau gwirioneddol drawiadol a welsom y diwrnod hwnnw oedd y man gemau aml-ddefnydd a oedd ar gael i'r ysgol yn ystod oriau ysgol ond ar agor at ddefnydd y gymuned ehangach fin nos. Ac, yn wir, hoffwn gymeradwyo RhCT fel awdurdod lleol am y camau y mae'n eu cymryd i wneud defnydd o'r £15 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei neilltuo i gynorthwyo ysgolion bro yn ardaloedd y Cymoedd.
O ran y cwestiwn atodol penodol am ryddhad ardrethi annomestig, credaf ei bod yn deg i mi ddweud, Llywydd, er bod awdurdodau lleol yn cyfrannu arian at y gronfa rhyddhad ardrethi annomestig, eu bod nhw'n cael pob ceiniog o hynny yn ôl. Felly, maen nhw'n talu arian i mewn, ond mae pob ceiniog y maen nhw'n ei thalu yn cael ei hailddosbarthu drwy'r gronfa, ac yn cael ei hailddosbarthu ar sail angen. Er hynny, mae'r Aelod wedi nodi mater pwysig. Rwy'n falch y bydd Rebecca Evans yn cyfarfod â'r awdurdod lleol ac eraill ar 15 Mai, rwy'n credu, fel y gallwn archwilio'n fwy manwl gydag awdurdodau lleol pa un a oes anghysondeb yn y fan yma a pha un a oes camau y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â hynny.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r sefyllfa yng nghlwb nofio dinas Caerdydd lle, yn gynharach eleni, ar ôl trosglwyddo pwll nofio rhyngwladol Caerdydd i Legacy Leisure, a gostyngiad dilynol i gymhorthdal y Cyngor o £100,000, canfu'r clwb bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i £53,000 y flwyddyn a cholli amser yn y pwll. Mae'r clwb hwn wedi bod yn weithredol am dros 40 mlynedd, ac mae dwsinau o'i nofwyr wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru a'r DU yn y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad, gan gynnwys Mark Foster, David Davies ac Ieuan Lloyd. Credaf ei bod yn bwysig iawn, pan welwn ni newid i'r trefniadau hyn, ein bod ni'n cofio'r angen i gynnwys ein holl glybiau a sefydliadau sy'n defnyddio'r cyfleusterau hyn, gan gynnwys y rhai elitaidd sy'n dod â chymaint o anrhydedd i'n cenedl ac sy'n wirioneddol bwysig yr holl ffordd i lawr y pyramid chwaraeon, oherwydd mae'r hyn a welwn yn cael ei gyflawni ar y lefel uchaf yn cael effaith fawr ar ein gallu i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon yn gyffredinol.
Diolchaf i David Melding am hynna. Rwyf yn ymwybodol o'r mater, yn wir, ac o hanes y clwb, o ran yr esiamplau y mae wedi eu cyflenwi a'r gwaith y mae'n ei wneud ym myd nofio ar lawr gwlad hefyd. Credaf fod yr awdurdod lleol yn dal i fod mewn trafodaethau gyda'r clwb, gan chwilio am ffordd i ddatrys rhai o'r problemau y mae'r clwb wedi eu nodi.
Prif Weinidog, mae gwasanaethau hamdden ledled Cymru wedi cael ergyd drom yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac, yn amlwg, fel y dywedasoch, er mai cyni cyllidol Llywodraeth Dorïaidd y DU sydd wedi ysgogi llawer o hyn, mae diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf wedi gwaethygu'r broblem. Nawr, mae'r pryderon hyn ynghylch cyllid wedi cael eu cyfleu'n eglur gan arweinwyr cynghorau o bob argyhoeddiad gwleidyddol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n amlwg bod gwasanaethau hamdden lleol yn cyflawni swyddogaeth gymdeithasol bwysig o ran mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, ffitrwydd corfforol a chydlyniant cymdeithasol. A ydych chi'n cydnabod erbyn hyn y bydd angen i'ch Llywodraeth chi ymrwymo i ddarparu mwy o arian i lywodraeth leol yn y dyfodol fel y gellir diogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn?
Wel, Llywydd, mae hanes Llywodraeth Cymru o gefnogi llywodraeth leol yng Nghymru yn gwrthsefyll unrhyw archwiliad o'i gymharu â'r hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r wlad. Dyna pam mai ychydig iawn yn ychwanegol y gallwn ddarparu i awdurdodau lleol yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol hon, tra bod rhagor o doriadau yn cael eu gwneud ar draws y ffin. Nid yw hynny'n golygu am eiliad nad oes, ar ôl bron i ddegawd o gyni cyllidol, mannau cyfyng a phwysau gwirioneddol y mae ein cydweithwyr mewn awdurdodau lleol yn eu teimlo, ac rydym ni wedi trafod y rheini gyda nhw yn dra reolaidd, ac, fel Cabinet, buom yn gweithio drwy gydol yr haf diwethaf i ddod o hyd i arian o bob man y gallem fynd iddo yn Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o gyllid i awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Nawr, ar gyfer y flwyddyn nesaf, nid oes gennym unrhyw gyllideb o gwbl. Nid oes adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi'i gwblhau ac nid oes gennym unrhyw wybodaeth o ran beth fydd y refeniw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen. Mae'r rhain yn amgylchiadau eithriadol o anodd i awdurdodau lleol, ond hefyd i bob gwasanaeth cyhoeddus arall y mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn ei gefnogi ledled Cymru. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu, gan weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill, i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol hynny, ond mae effaith cyni cyllidol ar y naill law a'r diffyg cyllideb llwyr i gynllunio ar ei sail ar gyfer y flwyddyn nesaf yn gwneud hynny, yn anochel, yn eithriadol o anodd i ni ac i'r holl wasanaethau hynny sy'n dibynnu ar y penderfyniadau a wneir yn y fan yma yn y Siambr hon.