Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 30 Ebrill 2019.
Wrth fynd trwy'r lefelau gwahanol o gyfrifoldeb yn yr achos yma jest nawr, roedd un lefel wnaethoch chi ddim enwi, sef y lefel weinidogol, y lefel lywodraethol—y lefel rŷch chi'n gyfrifol amdani. Does neb wedi ymddiswyddo o ganlyniad i'r methiannau damniol yn y gwasanaeth mamolaeth yng Nghwm Taf, ac eto, does bosib, mae'n rhaid i rywun gymryd cyfrifoldeb, a Gweinidogion sy'n gorfod dal y cyfrifoldeb yn y pen draw. Ac mae hynny'n eich cynnwys chi, Brif Weinidog, achos mae un o'r adroddiadau'n tynnu sylw at bryderon yn dyddio nôl i 2015, a'ch cyfnod chi fel Gweinidog iechyd.
Mae adroddiad mewnol gan fydwraig uwch wedi codi'r llen ar achosion pellach o farw-enedigaethau yn mynd nôl wyth mlynedd na wnaeth y bwrdd iechyd roi gwybod amdanyn nhw, ac mae awduron yr adroddiad, mae'n bwysig i nodi, wedi argymell bod yr achosion hynny yn cael eu gwneud yn destun ymchwiliad hefyd. Nawr, y bore yma mewn cyfweliad â'r BBC, dywedodd mam a wnaeth roi genedigaeth i'w merch yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg y llynedd, ac a fu farw wedyn, y byddai ymddiswyddiad y Gweinidog iechyd yn rhoi peth sicrwydd iddi hi a rhai tebyg iddi hi na fyddai pobl eraill yn y dyfodol yn wynebu'r un dioddefaint, er na fyddai'n dod â'i merch yn ôl. O ystyried y cyfrifoldeb rŷch chi a'ch Gweinidog iechyd yn ei rannu dros y methiannau systemig yng Nghwm Taf, onid y peth cywir i chi fel Prif Weinidog ei wneud yw nid yn unig gofyn i'ch Gweinidog iechyd ymddiheuro wrth y teuluoedd yma ond gofyn iddo hefyd wneud y peth anrhydeddus ac ymddiswyddo?