Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 30 Ebrill 2019.
Llywydd, dyma'r polisi: os na all Senedd y DU gytuno ar un cynnig amgen sy'n cynnwys bod yn rhan o'r farchnad sengl ac undeb tollau, yna'r unig ddewis sydd ar ôl yw rhoi'r penderfyniad yn ôl i'r bobl. Dyna'r polisi—dyna'r polisi fel y'i nodwyd mewn cynnig a noddwyd ar y cyd gan ei blaid ef a'm plaid innau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gynharach eleni. Dyna'r polisi y pleidleisiais i drosto—dyna'r polisi y pleidleisiodd ef drosto—ac rwy'n falch iawn o allu cadarnhau y prynhawn yma mai dyna yw polisi'r Llywodraeth o hyd.