Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 30 Ebrill 2019.
Llywydd, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn pennu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Cryfhawyd ac atgyfnerthwyd yr ymrwymiadau ymhellach yn y ddogfen 'Cymru Carbon Isel' a gyhoeddwyd fis diwethaf.