Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 30 Ebrill 2019.
Siawns mai trethu yn hytrach na rhoi cymorthdaliadau i'r defnydd o garbon y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud. Oni wnaiff y Prif Weinidog longyfarch George Osborne ar ei dreth carbon, sydd wedi lleihau'r defnydd o lo gan dri chwarter, neu longyfarch Llywodraeth y DU yn hytrach na'i galw'n neanderthalaidd, gan fod allyriadau carbon y DU wedi gostwng yn gyflymach na bron unrhyw le arall yn y byd, gan oddeutu 40 y cant ers 1990 o'i gymharu â dim ond 17 y cant yng Nghymru, neu yn wir yn llongyfarch yr arweinydd cyntaf yn y byd i ymgyrchu ar newid yn yr hinsawdd, sef Margaret Thatcher?