Tanwyddau Ffosil

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 30 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:15, 30 Ebrill 2019

Dwi’n siŵr bydd nifer o bobl wedi'u brawychu gan yr hyn ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach mewn ymateb i Adam Price—hynny yw, 24 awr ar ôl datgan argyfwng hinsawdd, eich bod chi’n dweud bod hynny ddim o reidrwydd yn golygu bod rhaid newid polisïau. Nawr, un polisi, yn amlwg, y byddwn i’n awyddus i weld yw mwy o annog dadfuddsoddi, achos mae yna lawer o arian yn y sector cyhoeddus, yn enwedig mewn pensiynau, wrth gwrs, wedi buddsoddi mewn cwmnïau ynni ffosil. Mi ges i lythyr oddi wrth y Gweinidog cyllid yn ddiweddar a oedd yn dweud y byddai’r Llywodraeth yn annog awdurdodau pensiynau llywodraeth leol, er enghraifft, i sicrhau eu bod nhw’n ystyried y materion yma. Allwn ni gael datganiad llawer mwy diflewyn-ar-dafod oddi wrth y Llywodraeth yn ei gwneud hi’n gwbl glir, os edrychwch chi ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, na ddylai’r math yma o fuddsoddiadau fod yn digwydd?