Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 30 Ebrill 2019.
Diolch. Byddech chi wedi fy nghlywed i yn fy ateb i Darren Millar yn gynharach yn dweud y bydd cyfleoedd i holi'r Gweinidog iechyd am hyn yfory, oherwydd mae cwestiynau wedi'u cyflwyno sy'n berthnasol i'r mater penodol hwn. Ein dealltwriaeth ni yw mai penderfyniad unochrog yw hwn sydd wedi'i wneud gan Iarlles Caer ac nad yw darparwyr eraill yn Lloegr yn cynllunio camau tebyg. Rwy'n deall bod cyfarfod yn cael ei gynnal yr wythnos hon a bydd y Gweinidog, ar ôl yr amser hwnnw, yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.