Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 30 Ebrill 2019.
Diolch, Llywydd. Ar yr wyneb, o leiaf, mae llawer wedi newid ers y tro diwethaf inni gael cyfle i ystyried proses Brexit. Rwy’n siŵr bod y rhan fwyaf o’r Aelodau wedi croesawu penderfyniad cyfarfod eithriadol y Cyngor Ewropeaidd i gytuno i ymestyn dyddiad erthygl 50 hyd at 31 Hydref. Mae’r penderfyniad hwnnw’n golygu ein bod ni wedi llwyddo i osgoi, am nawr o leiaf, y peryg o Brexit chaotic, heb gytundeb—sefyllfa a oedd yn gwbl amhosibl i’r wlad baratoi yn iawn ar ei chyfer. Mae wedi rhoi cyfle inni anadlu a chyfle inni ystyried, ond dydy hynny ddim yn golygu’n bendant na fydd Brexit heb gytundeb yn digwydd. Dydy hyn yn ddim byd mwy, ar hyn o bryd, na symud y gorwel ymhellach ymlaen.
Wrth gwrs, fel yr ydw i ac eraill wedi dweud yn glir, rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leddfu’r canlyniadau tebygol os na fydd cytundeb. Rwyf am fanteisio nawr ar y cyfle i gydnabod yr holl waith caled gan staff ar draws y Llywodraeth a’r sector gyhoeddus yn ehangach dros y misoedd diwethaf er mwyn gwneud yr holl gynlluniau a pharatoadau wrth gefn a oedd yn angenrheidiol. Rydyn ni wedi gweld y gwasanaeth sifil a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar eu gorau. Yn sgil yr estyniad, rydyn ni wedi addasu dwyster ein paratoadau. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn adolygu hyn yn gyson, ond yn yr un ffordd ag y mae’n rhaid inni baratoi, mae hefyd angen inni reoli’n hadnoddau mewn ffordd gyfrifol ac ymateb pan fo’r manylion yn newid.
Er hynny, ar adeg o gyni mor ddifrifol, pan fo pwysau aruthrol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, mae’n warthus bod yn rhaid dargyfeirio adnoddau fel hyn. I beth? I amddiffyn pobl Cymru rhag bygythiad y gellid bod wedi ei osgoi pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydnabod llawer yn gynt nad oedd modd achub y cytundeb a gafodd ei negodi a gofyn am estyniad hir.