Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 30 Ebrill 2019.
Mae Llywodraeth y DU wedi gwastraffu biliynau o bunnau yn llythrennol ar baratoadau 'dim cytundeb', ar gyflogi staff newydd nad oes ganddyn nhw ddim neu fawr ddim i'w wneud, ar gynllunio systemau technoleg gwybodaeth na fydd o bosib eu hangen arnom ni fyth ac, yn fwyaf nodedig, ar sicrhau capasiti fferi gan gwmni heb longau ac yna talu mwy na £30,000,000 mewn iawndal i gystadleuwyr a dramgwyddwyd, i gyd mewn ymdrech ofer i ategu haeriad y Prif Weinidog fod canlyniad 'dim cytundeb' yn dderbyniol—rhan o'i strategaeth negodi fethedig sef bod cadw 'dim cytundeb' ar y bwrdd yn cryfhau ei sefyllfa pan mai'r unig fwriad, mewn gwirionedd, oedd cadw ei chydweithwyr ar y meinciau cefn led braich oddi wrthi. Ond er ei bod hi'n ymddangos ar un ystyr fod llawer wedi newid, ni ddylem ni fod ag unrhyw amheuaeth bod yr hanfodion yn aros yr un fath.
Hyd yn hyn, nid oes mwyafrif yn y Senedd ar gyfer unrhyw ffordd glir ymlaen. Mae'r trafodaethau rhwng y Llywodraeth a'r wrthblaid yn dal yn hanfodol. Rhaid i'r ddwy ochr ymgysylltu'n llawn, yn gyfrifol ac yn greadigol. Mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn gweld y trafodaethau gyda'r gwrthbleidiau fel cyfle i geisio gwerthu ei chytundeb yn hytrach na cheisio cyfaddawd—cyfaddawd sydd, beth bynnag arall, angen cynnwys ymrwymiad i undeb tollau parhaol ac ymgorffori ymrwymiadau Chequers i alinio rheoleiddiol. Yn bwysicach fyth, nid oes gan fusnesau unrhyw sicrwydd o hyd ynghylch y dyfodol hirdymor—mae buddsoddiad yn cael ei ohirio neu ei ganslo ac mae swyddi'n cael eu colli. Dyma'r gwir ddifrod o ganlyniad i'r modd trychinebus y bu'r Prif Weinidog yn ymdrin â Brexit: bywoliaethau yn cael eu colli, rhagolygon economaidd cymunedau cyfan yn cael eu bygwth a niwed tymor hir i hygrededd y DU yn y dyfodol fel un o wladwriaethau mwyaf blaenllaw y byd. Ac mae hynny'n edrych yn debygol iawn o barhau. Oherwydd er y croesewir yr estyniad i Erthygl 50, mae hefyd yn golygu peryglon sylweddol. Mae'n demtasiwn i gytuno â Guy Verhofstadt, Cydlynydd Brexit Senedd Ewrop, bod chwe mis yn rhy agos i ailfeddwl yn sylweddol ynghylch Brexit ac ar yr un pryd yn rhy bell i annog unrhyw weithredu.
Mae'r hollt yn y blaid Dorïaidd yn troi'n agendor, gyda'r Prif Weinidog yn ei swydd ond heb fod mewn grym. Mae dadrithiad ac anfodlonrwydd â gwleidyddiaeth a gwleidyddion yn cynyddu, gyda mwy na hanner y boblogaeth, yn ôl pob golwg, yn dymuno cael arweinydd cryf sy'n torri'r rheolau, a bron i dri chwarter yn credu bod angen diwygio ein system ddemocrataidd yn sylweddol.
Mae perygl gwirioneddol, yn hytrach na gwneud cynnydd pendant, y caiff y chwe mis ei dreulio ar ddadlau ymysg y Torïaid, rhagor o barlys Seneddol ac etholiad Ewropeaidd, a fydd, er bod gan Lafur Cymru bob rheswm i fod yn hyderus yn ei gylch, yn chwerw a chynhennus. Mae'n fwy na mis eisoes ers 29 Mawrth. Cyn inni sylweddoli hynny, bydd hi'n fis Medi ac ni fyddwn ni ymhellach ymlaen ac yn wynebu dibyn newydd—ni ddylid caniatáu i hynny ddigwydd.
Mae'r hyn sydd ei angen arnom ni yn glir: cynnydd gwirioneddol ar y negodiadau trawsbleidiol, neu gydnabyddiaeth gyflym nad yw'r Llywodraeth yn barod i symud yn ddigonol i ennill cefnogaeth y gwrthbleidiau, ac, yn gyfochrog, negodiadau difrifol, ystyrlon â'r gweinyddiaethau datganoledig i lunio cytundeb derbyniol; os nad oes cytundeb, un cyfle pellach i'r Senedd ganfod mwyafrif ar gyfer ffordd ymlaen; a pharatoadau ar gyfer refferendwm posibl, gan gynnwys deddfwriaeth ddrafft a'r camau eraill sy'n ofynnol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Byddwn ni, Llywodraeth Cymru, yn gwneud popeth yn ein gallu i bwyso ar Lywodraeth y DU a'r wrthblaid i gymryd y camau hollbwysig hyn.