Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 30 Ebrill 2019.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ni ddylai gallu person ifanc i elwa ar addysg byth fod yn ddibynnol ar ei gefndir na'i amgylchiadau personol. Mae cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac sy'n ennyn hyder y cyhoedd. Sicrhawyd grant datblygu disgyblion yn rhan o gytundeb cyllideb rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru ar y pryd, ac mae wedi arwain at dros £475 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol, sydd wedi rhoi cefnogaeth uniongyrchol i dros hanner miliwn o bobl ifanc sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim i gyrraedd eu potensial.
Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae'r grant datblygu disgyblion wedi'i ehangu, o ran y grwpiau o ddysgwyr y mae'n eu cefnogi erbyn hyn a maint y buddsoddiad. Mae'r cyllid yn canolbwyntio ar y meysydd lle y caiff yr effaith fwyaf, ac rydym yn gwybod mai yn y blynyddoedd cynnar y mae hynny, felly rydym wedi cynyddu'r elfen hon o'r cyllid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac mae'n cefnogi grwpiau y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, gan gynnwys ein pobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, a dyna pam yr ydym wedi cryfhau trefniadau'r grant ar gyfer plant sy'n derbyn gofal o'r mis hwn ymlaen.
Mae ysgolion yn parhau i ddweud wrthym pa mor amhrisiadwy yw cyllid y grant datblygu disgyblion. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod na all cyllid wedi'i dargedu fod yr unig ateb. A bod yn blwmp ac yn blaen, Dirprwy Lywydd, nid yw ein system bresennol bob amser wedi gwobrwyo'r ymddygiadau iawn, ac nid yw'r ffordd yr ydym yn mesur y bwlch mewn cyrhaeddiad mor syml ag y mae rhai yn ei honni. Mae nifer y disgyblion sy'n cofrestru ar gyfer arholiadau gwyddoniaeth yn enghraifft dda iawn. Mewn blynyddoedd blaenorol, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion PYDd yng Nghymru a gofrestrwyd ar gam ar gyfer gwyddoniaeth BTEC, yn hytrach na TGAU. Yn ogystal â chyfyngu ar ddyheadau, roedd hyn yn golygu bod eu perfformiad wedi'i guddio yn ein ffigurau o ran y bwlch cyrhaeddiad cenedlaethol. Rydym wedi cymryd camau i fynd i'r afael â hyn, sydd wedi arwain at gynnydd o 30 y cant, ers 2016, yn nifer y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim sydd wedi cyflawni o leiaf un cymhwyster TGAU mewn gwyddoniaeth.
Yn gynharach eleni, fe wnaethom gyhoeddi manylion ein trefniadau gwerthuso a gwella drafft. Roedd pwyslais blaenorol ar y ffin C/D yn cefnogi llawer, ond yn eithrio eraill. Yn hytrach, bydd ysgolion erbyn hyn yn cael eu gwerthuso yn ôl y gwahaniaeth y maen nhw yn ei wneud i gynnydd pob plentyn unigol. Bydd hyn yn golygu newid yn niwylliant y system gyfan a bydd yn hanfodol ar gyfer gwella cyrhaeddiad pawb.