Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 30 Ebrill 2019.
Rwy'n hapus iawn i ymddangos o flaen y pwyllgor diwylliant neu ba bwyllgor bynnag i graffu yn fwy manwl ar sut ydym ni'n datblygu ein cynlluniau ynglŷn â Chymru Greadigol, ond efallai y dylwn i ateb dau bwynt yn niwedd y cwestiwn yna. So, yn gyntaf: does dim sôn yn y datganiad yma am gelfyddyd gain—un o fy hoff ddiddordebau i, fel y gwyddoch chi. Fy etholwr creadigol iawn, David Nash, sydd ag arddangosfa ardderchog ganddo fo, yn agor yn yr amgueddfa ardderchog sydd gennym ni lawr y ffordd yma yn ddiweddarach yr wythnos yma. Dwi ddim wedi sôn am gelfyddyd gain oherwydd cyfrifoldeb cyngor y celfyddydau yw ac a fydd celfyddyd gain. Mae'r un peth yn wir am lenyddiaeth. Wrth gwrs, mae yna gysylltiad rhwng llenyddiaeth fel naratif a stori sydd yn ymddangos wedyn yn rhan o stori y diwydiant creadigol, ond mae'n rhaid inni barhau gyda'r strwythurau, megis Llenyddiaeth Cymru, megis y ddarpariaeth ar gyfer celfyddyd gain, ochr yn ochr efo'r diwydiannau creadigol, sydd yn bennaf ynglŷn â'r ochr gymhwysol i greadigrwydd. A dyna ydy'r gwahaniaeth rhwng y diwydiannau creadigol a'r gweithgaredd artistig celfyddydol yr ydw i newydd gyfeirio ato fo.
Ynglŷn â darlledu, pa mor hir y mae'n rhaid imi ddweud fel Gweinidog yn y lle hwn: dyw hi ddim yn bolisi Llywodraeth Cymru i ddatganoli darlledu. Y rheswm am hynny yw, yn y dyddiau hyn, lle mae'r diwylliant i gyd yn ddigidol, does yna ddim ystyr i ddatganoli darlledu traddodiadol, oherwydd y cyfan y mae hwnna'n mynd i'w wneud ydy aflonyddu, a dweud y gwir, ar y datblygiad creadigol a ddylai fod yn digwydd ar draws y sector digidol a'r gwahanol gyfryngau. Ond dwi ddim yn mynd i fynd ar ôl hwnna ymhellach.
Ond cyn belled ag y mae datblygiad Cymru Greadigol yn y cwestiwn, mae'r syniad yn bod mai'r ffordd i ddatblygu polisi ydy creu strategaeth a chreu rhyw fath o ddogfen meistr gynllun sydd yn gosod y peth ar ei draed. Dydw i ddim yn rhannu'r math yna o agwedd o gwbl. Dwi wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn trafod yn fanwl ac yn ymgynghori â'r diwydiannau creadigol ac yn gweld eu gwaith nhw yn fanwl, fel ein bod ni'n cynhyrchu rhywbeth a fydd yn dderbyniol i bobl o fewn y diwydiant. Dwi'n synnu eich clywed chi yn dweud bod pobl ddim yn gwybod lle i fynd am gyllid i ffilmio, oherwydd maen nhw'n mynd i'r union lefydd y maen nhw'n arfer mynd, sef at Ffilm Cymru a chynghrair sgrin Cymru—mae'r cyllid i'w gael yn y cyfeiriad yna—ac at y Llywodraeth. Rydyn ni wedi cyllido, fel roeddwn i'n dweud gynnau, Un Bore Mercher/Keeping Faith 2, sydd yn darlledu ar hyn o bryd. Rydyn ni'n parhau i gyllido, ac mi fyddwn ni'n parhau i wneud hynny. Ond pan ddaw Cymru Greadigol i fod, a dwi wedi ateb ynglŷn â maint y gyllideb—oddeutu £30 miliwn—mi fydd yna gadeirydd annibynnol, a bydd hi neu fo yn cael eu penodi drwy'r strwythur penodiadau cyhoeddus arferol. Mi fydd yna brif weithredwr wedi ei benodi cyn hynny, ac yna mi fydd yn gorff tua'r un maint â Chadw. Felly, y gymhariaeth gyfansoddiadol, os ydych chi'n chwilio am gwestiwn ynglŷn â llywodraethiant, ydy: bydd o'n debyg i Cadw. Ond mi fydd o, yn hytrach na Cadw, yn creu.