Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 30 Ebrill 2019.
I ddechrau, hoffwn i groesawu cyhoeddiad y Llywodraeth ynglŷn â'u partneriaeth newydd gydag NBCUniversal, a'u penderfyniad i ymestyn PYST. Mae'r ddau beth yma yn newyddion da, ond, yn anffodus, dyma'r unig gyhoeddiadau newydd yn y datganiad sydd yn cynnwys unrhyw fath o fanylder. Mae pob dim arall yn y cyhoeddiad un ai'n annelwig neu'n datgan beth sydd eisoes yn digwydd yn y diwydiannau creadigol. Er enghraifft, tra rwy'n cytuno â'r rhan o'r datganiad sy'n nodi bod cynnwys diwylliant wrth ddatblygu'r economi yn ganolog i natur a dyheadau Cymru Greadigol, nid oes unrhyw ymhelaethiad na manylder polisi yma. Yn yr un modd, rwy'n cytuno bod angen datblygu ymrwymiadau gan bob partner o ran cynhwysiant, cyflog teg ac arferion gweithio, a bod amrywiaeth a chydraddoldeb yn hanfodol i fod yn greadigol. Ond y broblem yw nad yw'r datganiad yn amlinellu sut bydd yr egwyddorion pwysig yma yn cael eu gweithredu gan y Llywodraeth ar ffurf polisi.
Mae'r Dirprwy Weinidog yn trafod y corff newydd a gafodd ei gyhoeddi'r flwyddyn ddiwethaf—Cymru Greadigol—ond yr unig wybodaeth a gawn ynglŷn â hyn yw'r canlynol:
'Drwy'r brand newydd byddwn yn hyrwyddo cyfraniad y sector creadigol i'n diwylliant, ein henw da a'n llwyddiant ledled y byd.'
Mae naw mis ers y cyhoeddiad a does gennym ni fel Aelodau Cynulliad dal ddim unrhyw wybodaeth y gallwn ei defnyddio er mwyn craffu ar y cynlluniau. Mae'r ansicrwydd hwn yn cael effaith ar randdeiliaid o fewn y sector. Er enghraifft, mae pobl sy'n gweithio ym maes cynhyrchu ffilmiau yn dweud wrthym eu bod nhw ddim yn gwybod lle dylent fynd er mwyn cael mynediad at wybodaeth a chyllid. Byddem yn ddiolchgar petai'r Dirprwy Weinidog yn gallu dweud wrthym beth yw'r amserlen ar gyfer sefydlu Cymru Greadigol, a beth fydd statws y corff mewn perthynas â'r Llywodraeth, fel mae David Melding eisoes wedi gofyn. A fydd y corff yn gyfrifol am reoli cyllideb ac, os felly, beth fydd maint y gyllideb a pha effaith fydd hyn yn ei gael ar swyddogaethau cyrff eraill sy'n gwneud y gwaith hwn ar hyn o bryd? Yn ogystal, beth fydd trefniadau’r corff newydd o ran llywodraethiant?
Dirprwy Weinidog, mae brawddeg gyntaf eich datganiad yn honni mai
'diweddariad i’r Cynulliad am ein cymorth', sef cymorth gan y Llywodraeth,
'i sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru' yw hyn. Ond y gwir amdani yw nad yw'n ddiweddariad o gwbl, oherwydd dyw e ddim yn drosolwg cynhwysfawr o'r diwydiannau creadigol. Nid oes unrhyw sôn am radio, am gelfyddydau perfformio, llenyddiaeth, celfyddyd gain. Hoffwn fod wedi cael diweddariad ynglŷn â'r meysydd hyn, gan gynnwys cynlluniau manwl ac amserlenni, ynghyd ag amserlen glir o ran eu gweithredu.
A oes gan y Dirprwy Weinidog gynlluniau i gyhoeddi strategaeth ddiwylliannol gynhwysfawr yn y dyfodol agos er mwyn rhoi cig ar yr asgwrn—dŷn ni wedi sôn am 'Where's the beef?', ac efallai fod hynna'n cyd-fynd yn hyn o beth—a rhoi cyfeiriad clir i'r sector a galluogi Aelodau o'r Siambr hon i graffu ar y cynlluniau?
Fel cenedlaetholwr, roedd gennych chi, Ddirprwy Weinidog, gyfle gwych yn y datganiad yma i alw am ddatganoli darlledu. Mae'n siomedig nad oes yna unrhyw sôn am hyn yn y datganiad. Un enghraifft o pam rydym ni angen y pwerau hyn ydy er mwyn sicrhau bod cwmnïau radio yn darparu canran benodol o'u cynnwys o Gymru a sicrhau bod cynyrchiadau sydd â chyllideb fawr yn gwneud defnydd o'n talent gynhenid a chynhyrchu deunydd sydd yn berthnasol i'r gynulleidfa. Rwyf felly yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog ddarparu mwy o wybodaeth ynglŷn â'i gynlluniau, er mwyn i Aelodau y tu allan i'r Llywodraeth allu gwneud ein gwaith o graffu mewn modd priodol. Diolch.