Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 1 Mai 2019.
Diolch, Joyce. Rydym yn ymwybodol fod rhai ysgolion yng ngorllewin Cymru yn gweithredu wythnos anghymesur, gyda phrynhawniau Gwener yn cael eu defnyddio ar gyfer cynllunio ac amser hyfforddi i athrawon. Yr ysgolion sydd i benderfynu sut i strwythuro'u hwythnos. Fodd bynnag, wrth wneud hynny, mae'n rhaid iddynt ymgynghori â'r rhieni cyn gwneud unrhyw newidiadau.