Mercher, 1 Mai 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, a'r cwestiwn cyntaf, Darren Millar.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safonau addysg yn ysgolion Cymru? OAQ53770
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau a roddir i awdurdodau addysg lleol ynghylch sicrhau bod digon o amser yn y diwrnod ysgol i ddiwallu anghenion iechyd a lles disgyblion? OAQ53777
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion sy'n defnyddio iaith arwyddion Prydain mewn ysgolion? OAQ53779
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella hawliau plant i gael addysg am rywioldeb a chydberthynas ym mhob ysgol? OAQ53776
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o rai ysgolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn cau amser cinio dydd Gwener? OAQ53782
6. Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau bod ysgolion yn cael eu hariannu'n ddigonol? OAQ53785
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadw myfyrwyr yng Ngogledd Cymru ar ôl cwblhau addysg bellach? OAQ53774
8. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y system addysg yn darparu'r sgiliau sy'n ofynnol i gefnogi economi Cymru? OAQ53761
Y cwestiynau nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Alun Davies.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at feddygon teulu ym Mlaenau Gwent? OAQ53765
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni sgrinio ar gyfer canser yng Nghymru? OAQ53783
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yng Ngogledd Cymru? OAQ53773
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ysbytai ar gyfer cleifion yng ngogledd Cymru? OAQ53771
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? OAQ53744
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal iechyd trawsffiniol yng ngogledd Cymru? OAQ53756
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau rheoli poen ar gyfer y rhai sy'n dioddef o gyflyrau poen cronig yng nghanolbarth Cymru? OAQ53762
8. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nifer yr achlysuron y mae ambiwlansys wedi gorfod aros am fwy na 10 munud mewn ysbytai yng Ngorllewin De Cymru cyn gallu rhyddhau eu cleifion? OAQ53755
Ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
Felly, y datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf gan Mick Antoniw.
Eitem 5 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar berthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i wneud y cynnig. Nick...
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 'Perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans.
Y ddadl gyntaf y pleidleisiwn arni y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar hawliau gweithwyr, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig, byddwn...
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Bethan Sayed i siarad am y pwnc a ddewisodd. Bethan.
Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y modd y caiff athrawon cyflenwi eu contractio yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gofal sylfaenol yn Ninas a Sir Abertawe?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia