Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 1 Mai 2019.
Diolch am eich ateb. Weinidog, rwyf wedi darllen mai ein pobl ifanc yng Nghymru yw'r mwyaf tebygol o bob un o wledydd y DU o wneud cais i astudio y tu allan i'w gwlad eu hunain. Mae oddeutu 40 y cant yn mynd i Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Pan fydd pobl ifanc yn mynd oddi yma i astudio, gwyddom efallai na fyddant byth yn dychwelyd, ac mae hyn yn effeithio'n negyddol iawn ar rannau o fy rhanbarth. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cymell pobl ifanc i astudio yma?