Sgiliau i Gefnogi'r Economi

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:14, 1 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch byth fod y Llywydd wedi dod o hyd i chi, John; mae'n gwestiwn ardderchog. Rydym yn gweithio i gyflwyno cwricwlwm newydd i bob dysgwr erbyn 2022. Bydd yn gwricwlwm a arweinir gan ddibenion, felly erbyn y byddant yn 16 oed, dylent fod yn unigolion galluog, hyderus, moesegol sy'n chwarae rhan weithredol yn eu cymuned a'u cymdeithas, ac yn barod i ffynnu ym myd gwaith.