Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 1 Mai 2019.
Diolch yn fawr, Weinidog. I gleifion yn sir Drefaldwyn, rwyf wedi cael, ac rwy'n dal i gael, adroddiadau gan etholwyr nad ydynt wedi cael gwybod am eu hopsiynau ar gyfer rheoli poen ar ôl cau ysbyty orthopedig Croesoswallt, fel y sonioch yn gynharach. Mae'n ymddangos bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn wael iawn am gyfathrebu eu hopsiynau ar gyfer rheoli poen yn y dyfodol. A gaf fi ofyn i chi ymrwymo i weithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i sicrhau bod cleifion yn cael gohebiaeth amserol am eu llwybrau gofal iechyd yn y dyfodol? At hynny, mae cleifion yn sir Drefaldwyn sydd â chyflyrau poen cronig angen darpariaeth yng ngogledd Powys. A gaf fi ofyn i chi weithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i sicrhau bod hynny'n digwydd?