Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 1 Mai 2019.
Nid ydym yn casglu data ar sail arhosiad o 10 munud cyn rhyddhau. Mae gennym fesurau sy'n dechrau gyda chyfnod amser o 15 munud. Ond rwy'n disgwyl y bydd pob claf sy'n cyrraedd ysbyty mewn ambiwlans yn cael ei drosglwyddo i ofal staff yr ysbyty yn nhrefn blaenoriaeth glinigol ac mewn modd amserol er mwyn cefnogi canlyniadau a phrofiadau cadarnhaol i gleifion.