Ambilwlansys yn Aros Mewn Ysbytai

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:08, 1 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Mater i fwrdd iechyd newydd Cwm Taf Morgannwg fydd sicrhau ei fod yn darparu gwasanaeth cyson ar draws yr ardal gyfan. Mae hwn yn un o'r materion sy'n codi gyda newid diwylliant, arferion ac arweinyddiaeth a sut y bydd yn effeithio ar bob rhan o'r sefydliad cyfan, gan gynnwys y rhan o Ben-y-bont ar Ogwr sydd wedi cael ei dwyn i mewn i fwrdd iechyd newydd Cwm Taf Morgannwg. Felly, rwy'n disgwyl gweld gwelliant pellach. Rwy'n disgwyl gwelliant pellach o ran trosglwyddo cleifion ac o ran deall a gwrando ar gleifion am eu profiad o'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth gyda hwy ac ar eu cyfer. Oherwydd, yn amlwg, nid yw'r arosiadau eithriadol o hir y soniwch amdanynt yn eich cwestiwn yn dderbyniol o gwbl.