Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 1 Mai 2019.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar newid hinsawdd, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, roedd 13 yn ymatal, a 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.