Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 7 Mai 2019.
Diolchaf i Hefin David am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwaith athrawon cyflenwi. Rydym ni wedi cefnogi gwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, sydd ar gamau olaf fframwaith newydd ar gyfer cyflogi athrawon dros dro ac athrawon cyflenwi yma yng Nghymru.