Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 7 Mai 2019.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Wrth i ni ddathlu ugeinfed pen-blwydd y sefydliad democrataidd hwn, mae hefyd yn gyfle i ddathlu'r twf o ran Aelodau a Gweinidogion y Cynulliad, yn wir, dros yr 20 mlynedd hynny sy'n gyd-weithredwyr ac yn aelodau o'r Blaid Gydweithredol yn ogystal â'r Blaid Lafur. Mewn gwirionedd, er bod y Blaid Gydweithredol, wrth gwrs, yn chwaer-blaid i'r Blaid Lafur, mae hefyd yn digwydd bod yr ail grŵp gwleidyddol mwyaf, Llywydd, er nad ydym yn fursennaidd ynghylch hynny o gwbl. Felly, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflawni ei hymrwymiad i gyflwyno Gweinidog cydweithrediad ar draws y Llywodraeth ac i Lee Waters am ei ymgysylltiad â'r grŵp gydag agenda gydweithredol.
Yn y maniffesto ar gyfer 2016 gan Blaid Gydweithredol Cymru, fe wnaethom annog rheilffyrdd i gael eu rhedeg mewn partneriaeth â theithwyr a staff, mynd i'r afael â'r argyfwng tai trwy dai cydweithredol, rhoi llais i gefnogwyr chwaraeon yn y clwb y maen nhw'n ei gefnogi, undebau credyd fel y ffordd orau o gynorthwyo trefniadau ariannu personol a chymunedol cryf a llythrennedd ariannol, a mwy a mwy. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog beth yw ei farn ar y cynnydd nawr yn erbyn y nodau hyn a nodau cydweithredol eraill—nodau a rennir: yr ymgyrchoedd presennol ar gyfiawnder bwyd, ar fanc cymunedol cenedlaethol a all fod yn fanc gwirioneddol hygyrch i bob un o'n cymunedau ledled Cymru, ac, yn wir ymrwymiad plaid Lafur y DU ar ddyblu maint yr economi gydweithredol?
Nawr, rwy'n siŵr na fydd yn gallu ateb yr holl gwestiynau hyn heddiw, felly efallai y caf i ofyn iddo a fyddai'n ystyried cyfarfod â'r grŵp a gyda Lee Waters, ar ryw adeg, fel y gallwn gael trafodaeth wirioneddol adeiladol ynghylch y nodau cyffredin hynny sydd gennym ar gyfer sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a gweithio gyda'n gilydd er lles pawb.