Parthau Ugain Milltir yr Awr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 7 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:15, 7 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i longyfarch y Prif Weinidog am wneud fy nghwestiwn atodol yn gwbl ddiangen? [Chwerthin.] Oherwydd roeddwn i'n mynd i alw am yr union safbwynt rhagosodedig hwnnw. Mae'n rhesymegol ein bod ni'n gosod y terfyn safonol mewn ardaloedd adeiledig yn 20 mya ac yna mae gan gynghorau'r grym i'w osod yn 30 mya ar gyfer y llwybrau mwy uniongyrchol hynny drwy eu hardaloedd trefol.