Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 7 Mai 2019.
Wel, Llywydd, gadewch imi ddechrau drwy egluro bod ardrethi busnes yn cael eu codi am resymau da iawn, oherwydd mae'r busnesau sy'n gweithredu ar y stryd fawr yn cael yr holl fanteision a ddaw yn sgil gwasanaethau cyhoeddus: mae'r cyhoedd yn talu am y ffyrdd y mae pobl yn gyrru arnynt; mae'r cyhoedd yn talu am y palmentydd y bydd pobl yn cerdded arnynt; y cyhoedd sy'n talu am yr addysg a ddarperir i'w gweithwyr; mae'r cyhoedd yn talu am y gwasanaeth iechyd sy'n gofalu am eu gweithwyr pan fyddant yn sâl. Mae ardrethi busnes yn gyfraniad y mae busnesau'n ei wneud i'r gwasanaethau sy'n caniatáu i'r busnesau hynny ffynnu. Yma yng Nghymru rydym bellach yn buddsoddi mwy mewn rhyddhad ardrethi busnes nag ar unrhyw adeg yn holl gyfnod datganoli. Mae mwy na thri chwarter y rhai sy'n talu ardrethi busnes yng Nghymru yn elwa o'r gwahanol fathau o ryddhad ardrethi sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru, ac yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn buddsoddi £23,600,000 ychwanegol yn benodol mewn rhyddhad ardrethi ar y stryd fawr.
Nawr, nid yw hynny'n dweud am eiliad nad oes heriau gwirioneddol yn wynebu'r stryd fawr. Gwyddom fod siopa ar gyrion trefi a siopa ar-lein yn gwneud gwahaniaeth mawr ar y stryd fawr. Gwyddom fod patrymau ymddygiad defnyddwyr yn newid. Ac wedi 10 mlynedd o gyni, mae cyflogau wedi'u dal yn ôl i'r pwynt lle mae diffyg galw effeithiol yn yr economi i brynu'r nwyddau sy'n cael eu cyflenwi ar y stryd fawr. Felly, mae'r heriau'n rhai gwirioneddol. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Chonsortiwm Manwerthu Prydain a chyda'i aelodau yng Nghymru i sicrhau bod y cymorth y mae'r pwrs cyhoeddus yn ei roi i'r busnesau hynny mor effeithiol ag y gallwn ei wneud.