Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 7 Mai 2019.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Mae nifer o ddisgyblion yn cael eu rhoi o dan anfantais am nad ydy llyfrynnau adolygu rhai o'r pynciau TGAU ar gael drwy'r Gymraeg, a hynny wythnosau yn unig cyn yr arholiadau. Yn benodol, dwi'n sôn am fathemateg uwch a busnes. Does yna ddim pwynt o gwbl iddyn nhw gyrraedd mewn pryd i'r arholiad, fel mae CBAC yn ei ddatgan heddiw.
Yr haf y llynedd, fe gyhoeddwyd adroddiad ar yr union bwnc yma gan y pwyllgor plant a phobl ifanc, efo nifer o argymhellion cynhwysfawr i geisio rhoi trefn ar y sefyllfa, ond dyma ni unwaith eto yn trafod y broblem. Mi fyddai'n ddefnyddiol iawn i Aelodau'r Cynulliad gael gwybod beth ddigwyddodd i'r argymhellion hynny, a pha weithredu fu arnyn nhw. Ac felly, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth yn nodi hynny, a hefyd pa gamau fydd yn cael eu cymryd gan y Llywodraeth i wneud yn siŵr na fyddwn ni ddim yn trafod hyn yn fan hyn eto y flwyddyn nesa. Mae'n bryd i hyn gael ei sortio, ac mae'n bryd i bobl ifanc yng Nghymru gael chwarae teg llawn ym mha bynnag iaith maen nhw'n dewis gwneud eu cyrsiau.
Gan droi at bwnc arall: mae naw o awdurdodau lleol yng Nghymru bellach o'r farn bod angen i'r Llywodraeth ddileu'r anomali yma sy'n golygu nad ydy rhai perchnogion tai gwyliau yn talu unrhyw drethi. A dwi'n llongyfarch y naw awdurdod yma sydd wedi datgan hynny yn glir wythnos diwethaf. Dwi yn cyfarfod eich swyddogion chi i drafod hyn cyn bo hir, ond mae angen yr arweiniad gwleidyddol. Felly, a gaf i ofyn i chi am ddatganiad ar ba gamau mae eich Llywodraeth chi yn eu hystyried er mwyn datrys y sefyllfa anfoddhaol hon? Mi allai'r £2 filiwn sy'n cael ei cholli o goffrau Cyngor Gwynedd oherwydd hyn—. Mi fyddai'r arian yna yn medru cael ei ddefnyddio i ddiwallu'r angen am dai yn y maes cymdeithasol ac i gynyddu'r stoc tai ar gyfer pobl leol.