2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 7 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:39, 7 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am godi'r ddau fater hyn, ac fe fyddai'n well gen i beidio gorfod trafod llosgydd y Barri gyda chi mewn datganiad busnes wythnos ar ôl wythnos, ond, gwaetha'r modd, nid oes gennym eto'r eglurhad cyfreithiol sydd ei angen inni allu datrys hyn.

Ar fater llygredd amaethyddol, mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd yn cyflwyno datganiad cyn diwedd y tymor hwn.