Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 7 Mai 2019.
Diolch, Llywydd. Ym mis Mawrth 2017, eglurodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn wlad gwaith teg. Ers hynny, mae llawer iawn o waith adeiladol wedi cael ei wneud mewn partneriaeth gymdeithasol deirochrog rhwng y Llywodraeth a'n cydweithwyr mewn busnes ac undebau llafur i ddechrau gwireddu'r ymrwymiad hwnnw'n ymarferol.