Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 7 Mai 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwyf yn cynnig y gwelliannau yr wyf wedi'u cyflwyno. Wrth wrando ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, byddech chi'n dychmygu bod popeth yn fendigedig yn ein gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru, ond, wrth gwrs, dim o'r fath beth. Mae'r model gofal sylfaenol i Gymru wedi'i seilio, mewn gwirionedd, ar wasanaethau meddygon teulu sef y gwasanaethau iechyd rheng flaen y mae llawer o bobl yn eu defnyddio, ond, wrth gwrs, gwyddom ni fod argyfwng sylweddol o ran recriwtio meddygon teulu ar hyn o bryd a fydd yn tanseilio'r broses o ddarparu'r model gofal sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i'w ddarparu. Nawr, rydym ni wedi bod yn rhybuddio ynghylch yr argyfwng meddygon teulu hwn, ynghyd â Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ers blynyddoedd lawer. Roeddem ni'n dweud wrthych am gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi bron i ddegawd yn ôl, ac eto yr ydych wedi methu gwneud hynny tan yn ddiweddar. Hyd yn oed nawr, hyd yn oed gyda'r prinder parhaus, rydym ni'n dal mewn sefyllfa lle mae mwy o unigolion yn gwneud cais am y cyrsiau hynny ac yn gymwys ar gyfer y cyrsiau hynny, o ran y gallu i hyfforddi ym maes arbenigedd meddygon teulu, ac eto rydych chi'n eu rhwystro nhw. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod gennym ni, yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, 24 o bractisau meddyg teulu wedi cau ledled Cymru, 29 sy'n cael eu rheoli gan y Bwrdd Iechyd a 85 sydd mewn perygl. Ni all y sefyllfa hon barhau. Mae angen i chi hyfforddi mwy o feddygon teulu a chynyddu'r cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant cyn gynted â phosibl.
Ar ben hynny, canfu Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, yn ei arolwg diweddaraf, fod 23 y cant o feddygon teulu wedi dweud eu bod yn annhebygol o fod yn gweithio ym maes ymarfer cyffredinol ymhen pum mlynedd. Mae hynny bron i chwarter y gweithlu meddygon teulu. Mae 72 y cant yn dweud wrthym ni eu bod yn disgwyl y bydd gweithio mewn practis cyffredinol yn gwaethygu yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac mae 42 y cant yn dweud ei bod yn anghynaliadwy yn ariannol i gynnal eu practisau. Felly, credaf fod pethau'n llawer llai gobeithiol nag y mae'r Gweinidog wedi ceisio'i gyflwyno heddiw. Gwyddom ni hefyd fod practisau a reolir, sy'n un o'r pethau y mae'r Llywodraeth wedi tynnu sylw ato fel rhywbeth y mae hi eisiau gweld mwy ohonyn nhw yn y gymysgedd, yn llawer drutach mewn gwirionedd—traean yn ddrutach na swydd y contractwr meddyg teulu, y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu gweld fel y meddygon teulu traddodiadol yn eu cymunedau lleol. Nawr, petaech chi'n darparu'r adnoddau hynny yr ydych chi ar hyn o bryd yn eu rhoi i'r practisau sy'n cael eu rheoli, i'r practisau meddygon teulu sydd mewn perygl, rwy'n credu y byddech chi'n gweld na fyddai llawer o bractisau meddygon teulu mewn perygl mwyach ac y bydden nhw'n ymdopi'n eithaf da, diolch yn fawr.
O ran y ceisiadau—yn y gogledd yn unig, gyda llaw, rydym ni wedi gweld practisau yn cau yn Wrecsam ac mewn mannau eraill yn y gogledd, gan gynnwys yn fy etholaeth i, ac eto yr oedd 50 y cant yn fwy o ymgeiswyr na nifer yr unigolion a gafodd leoedd hyfforddi yn arbenigedd y meddyg teulu dros y flwyddyn ddiwethaf. Felly, roedd ffigurau 2017 yn awgrymu bod 22 o ymgeiswyr, ac eto dim ond saith a gafodd gynnig lle yn Wrecsam; 24 o ymgeiswyr ym Mangor, ond 12 yn unig a gafodd leoedd—ac mae hyn er gwaetha'r ffaith bod gennym ni brinder ofnadwy o feddygon teulu. Felly, credaf fod angen ichi edrych yn ofalus iawn ar niferoedd y meddygon teulu, neu fel arall, a bod yn onest, nid yw'ch cynllun gofal sylfaenol yn mynd i weithio.
Ar ben hynny, rydych chi hefyd yn ei gwneud hi'n llai deniadol i ddod i weithio yng Nghymru ac i fod yn ymarferydd cyffredinol, oherwydd y sefyllfa o ran indemniad, prin ichi grybwyll hyn yn eich sylwadau agoriadol. Nid yw'n syndod ichi roi cyn lleied o sylw i hyn, wrth gwrs, oherwydd yr hyn yr ydych yn ei wneud mewn gwirionedd yw brigdorri incwm practisau meddygon teulu, gan gymryd £11 miliwn o'r arian sydd ar gael i gefnogi'r practisau hynny er mwyn cyflwyno cynllun indemniad meddygon teulu, a hynny'n lled wahanol i'r sefyllfa bresennol yn Lloegr lle maen nhw wedi cael cynnydd sylweddol—[Torri ar draws.]—lle y maen nhw wedi cael cynnydd sylweddol—[Torri ar draws.] Nid ydych yn gwrando arnaf fi—lle y maen nhw wedi cael cynnydd sylweddol yn yr incwm sydd ar gael iddyn nhw yn yr un flwyddyn ag y maen nhw wedi cael eu cynllun yswiriant indemniad. Cofiwch, nid fi sy'n dweud hyn; y meddygon teulu eu hunain sy'n cysylltu â mi ac sy'n cysylltu â chi, ac mae'n siŵr yn cysylltu â phawb arall yn y Siambr hon. Dywedodd Dr Philip Banfield, cynrychiolydd o gyngor Cymdeithas Feddygol Prydain yn fy etholaeth i: bod morâl meddygon teulu yn y gogledd yn chwalu'n ddi-oed ac mewn modd trychinebus.
Mae Dr Conor Close, sydd hefyd yn feddyg teulu yn fy etholaeth i, yn dweud o ran ei feddygfa ef, bod y toriad yn gam yn rhy bell, ac fe ddyfynnaf;
Lleihau'r swm craidd yw'r ergyd olaf o bosibl o ran hyfywedd hirdymor y practis.
Fe wnaethoch chi sôn am y sefyllfa o ran rhestrau locymiaid. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae hyn yn mynd i ychwanegu gwahaniaethu newydd rhwng Cymru a Lloegr, ac, ar ben hynny, rydych yn dweud eich bod yn mynd i dalu am yr yswiriant ar gyfer y meddygon locwm. Nid ydych yn mynd i frigdorri eu hincwm, sy'n mynd i lusgo mwyfwy o bobl i waith locwm ac i ffwrdd o'r ffordd lai costus o gynnal pethau yn eu practisau meddygon teulu. Felly, mae angen dull o weithredu sylfaenol wahanol arnom ni.
Un pwynt olaf, os caf, Madam Ddirprwy Lywydd, ac mae hynny'n ymwneud â'r gyfran o fuddsoddiad fel cyfanswm y gyllideb gyfan yn y GIG. Mae gan Gymru'r ganran isaf o gyllideb y GIG wedi'i buddsoddi yn ei gwasanaethau gofal sylfaenol nag unrhyw ran arall o'r DU: 7.64 y cant, yn ôl yr ystadegau sydd gennyf fi, o gymharu â 9.51 y cant yn Lloegr yn cael ei wario ar ofal sylfaenol, 7.75 y cant yn yr Alban, a 9.51 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Yn amlwg, yr hyn yr ydych yn ei wneud yw amddifadu ein gwasanaethau gofal sylfaenol ar adeg pan fo angen buddsoddiad sylweddol arnyn nhw a byddwn yn eich annog i ddatblygu strategaeth wahanol, ac anogaf bobl i gefnogi'r gwelliannau yr ydym wedi'u cyflwyno.