Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 7 Mai 2019.
Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon ar y model gofal sylfaenol i Gymru. Nid wyf i'n gwybod a wyf i wedi crybwyll o'r blaen fy mod i'n digwydd bod yn feddyg teulu fy hun, ond—[chwerthin.] Yn amlwg, nid yw gofal sylfaenol yn ymwneud â meddygon teulu yn unig. Gadewch imi ddweud hynny'n awr. Mae'n ymwneud â nyrsys practis, mae'n ymwneud â fferyllwyr, â nyrsys ardal, ymwelwyr iechyd, deintyddion. Nawr, rwy'n ei chyfrif hi'n fraint cael bod yn feddyg teulu ers cryn amser bellach, ac, yn amlwg, mae 90 y cant o'r cysylltiadau â chleifion yn dal i fod ar lefel sylfaenol a chymunedol, ar ddim ond 7.6 y cant o'r gyllideb. Mae clystyrau, a bod yn deg, yn cael arian. Mae angen i'r arian hwnnw, serch hynny, er mwyn annog hyd yn oed mwy o'r arloesedd aruthrol sy'n digwydd, fod yn arian hirdymor ac yn strategaeth briodol, yn hytrach na photiau tymor byr y mae'n rhaid gwneud cais amdanyn nhw'n rheolaidd. Felly, er mwyn sicrhau newid sylweddol ym mherfformiad clystyrau, mae angen yr arian hwnnw arnyn nhw yn y tymor hir.
Ac mae practisau meddygon teulu unigol angen arian hefyd. Nid ydyn nhw'n cael unrhyw arian ychwanegol nawr. Mae'r cyfan yn mynd i glystyrau. Mae'n system sydd dan bwysau. Mae'n gwneud gormod, ond er hynny, mae gwaith gwych yn cael ei wneud, ac mae arloesi'n digwydd. Mae meddygon teulu yn gweld, ar gyfartaledd, 60 o gleifion y dydd, heb gyfrif yr holl waith y mae ein nyrsys practis a nyrsys ardal ac ymwelwyr iechyd yn ei wneud hefyd. Un bore Llun diweddar yn y feddygfa yn Nhregŵyr, yn fy meddygfa, fe gawsom ni 700 o alwadau ffôn gan gleifion. Nawr, mae'n rhaid cael ffordd o ymdrin â 700 o alwadau ffôn, a brysbennu yw hynny. Cewch eich cyfeirio at y gweithwyr iechyd proffesiynol gorau i ymdrin â'ch mater penodol chi, ac nid y meddyg teulu yw hynny o reidrwydd. Yn sicr, yn fy achos i, ar gyfer llawer iawn o broblemau, nid y meddyg teulu yw hynny o reidrwydd. Ond mae hynny'n broblem ac mae'n her y mae'n rhaid i rai pobl ymgyfarwyddo â hi.
Gan fod ymgynghorwyr ysbytai wedi dod yn fwy arbenigol dros y blynyddoedd—mae nhw'n edrych ar ddarnau o'r corff yn unig nawr—mae'r cysyniad o'r meddyg ymgynghorol cyffredinol wedi diflannu, ac rydych chi'n gofyn nawr: pwy yw'r meddyg ymgynghorol cyffredinol y dyddiau hyn? Wel, y meddyg teulu. Mae'r agwedd honno wedi dod o'r ysbyty. Mae wedi dod i'r gymuned. Felly, rydych chi'n gofyn nawr: pwy sy'n gwneud gwaith y meddyg teulu traddodiadol, felly? Wel, nyrs y practis nawr. Felly, mae'r newid hwnnw wedi digwydd yn anorfod, ond byddem ni'n hoffi gweld rhywfaint o'r cyllid hwnnw'n dilyn. Mae pob un o'r clinigau diabetig a'r clinigau asthma ac ati a arferai fod yn yr ysbyty'n cael eu cynnal bellach gan ein cydweithwyr yn y maes gofal sylfaenol, sef ymarferwyr nyrsio a nyrsys practis.