Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:46, 8 Mai 2019

Diolch, Llywydd. Weinidog, fel y dywedais i yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, mae dathlu 20 mlynedd o ddatganoli yn gyfle i asesu 20 mlynedd o'r Cynulliad, ein Senedd genedlaethol ni sy'n llais i bawb, wrth gwrs, ac mae o'n gyfle i edrych yn ôl ar 20 mlynedd o waith Llywodraeth Cymru. O ran Plaid Cymru, mi fuom ni mewn Llywodraeth am bedair blynedd yn dal y brîff economi. Dwi'n falch iawn o'r hyn a wnaeth fy rhagflaenydd i, Ieuan Wyn Jones, yn cynnwys gwthio rhaglenni ProAct a ReAct a wnaeth gymaint, ar y pryd, i liniaru rhai o effeithiau gwaethaf yr argyfwng ariannol ar y pryd. Ond pedair blynedd allan o 20 oedd hynny—20 mlynedd wedi eu harwain gan Lywodraeth Lafur. Sut ydych chi yn gallu egluro bod cyfoeth cymharol Cymru wedi mynd lawr dros yr 20 mlynedd diwethaf o dan eich arweinyddiaeth chi?