Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:40, 8 Mai 2019

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A yw'r Gweinidog yn rhannu fy mhryderon fod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar ei hôl hi o ran cyflawni ei gylch gwaith?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn cyfarfod â 'r comisiwn seilwaith cenedlaethol cyn bo hir. Byddaf yn trafod eu cylch gwaith a byddaf yn trafod eu blaenraglen waith. O gofio eu bod yn ystyried anghenion seilwaith yn y tymor hwy, rwy'n fodlon ar gyflymder y gwaith hyd yma. Fodd bynnag, hoffwn pe bai unrhyw waith a wneir o hyn ymlaen yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf cynhwysfawr posibl.

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:41, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw argymhelliad wedi dod i law eto o ran prosiectau seilwaith dros y pump i 30 mlynedd nesaf, sef pam y sefydlwyd y comisiwn, wrth gwrs. Ond rwy'n awgrymu, Weinidog, mai un broblem strwythurol allweddol yw bod cynllunio, ariannu a chylchoedd cyflwyno prosiectau seilwaith ac adeiladu yng Nghymru yn aml wedi eu cydlynu'n wael.

Er enghraifft, ledled Cymru ar hyn o bryd, mewn cyfnod y cyfeirir ato gan y sector adeiladu yn 'fis Mawrth gwallgof', mae pob awdurdod lleol yn gwario arian ar yr un pryd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn ychwanegol at hyn, yn aml, nid yw cylchoedd gwario llywodraeth leol yn cyd-fynd â strategaethau darparu seilwaith sefydliadau eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Felly, golyga'r dull di-drefn hwn fod gan y diwydiant adeiladu yng Nghymru weithlif ysbeidiol iawn, ac ansicrwydd ynghylch pa brosiectau a ddaw i fodolaeth yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Ac wrth gwrs, holl bwynt y comisiwn seilwaith cenedlaethol yw darparu rhywfaint o drosolwg ar y broblem, gyda'r nod yn y pen draw o helpu'r diwydiant adeiladu i gadw gweithwyr medrus a chaniatáu buddsoddiad a chymorth a thwf yn ein diwydiant adeiladu yng Nghymru.

Felly, o gofio pwysigrwydd y comisiwn seilwaith cenedlaethol, a fyddech yn cytuno â mi nad yw'r adnoddau a ddyrannwyd i gefnogi gwaith y comisiwn yn ddigonol? Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae un o swyddogion y Llywodraeth wedi'i secondio o Lywodraeth Cymru i'r comisiwn. Beth yw eich cynlluniau i wella'r sefyllfa yn y dyfodol?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:42, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Yn gyffredinol, cytunaf â'r pwyntiau pwysig a wnaeth ynglŷn â chylchoedd cyllido, a dyna pam ein bod wedi cynnwys, yn y cynllun gweithredu economaidd, yr addewid i newid i rownd fwy cynaliadwy a gwarantedig o gylchoedd cyllido nid yn unig ar gyfer cynlluniau seilwaith a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd o bosibl ar gyfer awdurdodau lleol.

Credaf ei bod yn gwbl briodol dweud bod angen datblygu ffrwd gyson o brosiectau seilwaith er mwyn sicrhau y gall pobl aros mewn gwaith wrth iddynt symud o un prosiect i'r llall. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn ystyried anghenion seilwaith Cymru yn y tymor hir, a'r rhai sy'n mynd y tu hwnt i bum mlynedd y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol.

Ar hyn o bryd, rydym hefyd yn y broses o adnewyddu strategaeth drafnidiaeth Cymru, a fydd, rwy'n siŵr, yn ystyried cylchoedd cyllido a natur y sector ar hyn o bryd. Ond yn ystod y sgyrsiau y byddaf yn eu cael gyda'r comisiwn seilwaith cenedlaethol, byddaf yn codi mater dyrannu adnoddau, ac yna byddaf yn penderfynu a oes angen adnoddau ychwanegol.

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:44, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb adeiladol yn hynny o beth, Weinidog. Rwy'n pryderu bod ymagwedd y Llywodraeth tuag at gynllunio a darparu seilwaith hirdymor yn wan iawn. Wrth gwrs, un enghraifft y cyfeiriais ati yw ffordd liniaru'r M4. Mae arian wedi'i wario—arian cyhoeddus; mae symiau enfawr o arian cyhoeddus wedi eu gwario—ac wrth gwrs, rydym yn dal i aros am benderfyniad terfynol.

Os yw'r sector adeiladu a seilwaith am fod â hyder yng ngallu'r Llywodraeth i gynllunio a chyflwyno prosiectau newydd yn y dyfodol, ac os yw busnesau a chymunedau ledled Cymru am fod â hyder yng ngallu eich Llywodraeth, mae'n gwbl hanfodol eich bod yn sicrhau bod y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar waith a bod yr adnoddau priodol yn cael eu darparu ar ei gyfer. Mae'r comisiwn hwnnw wedi bod ar waith ers blwyddyn bellach, ac er enghraifft, pe bai'r comisiwn hwnnw yn cael yr adnoddau priodol, ac rwy'n awgrymu nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd, efallai y dylid sicrhau bod cynllun B ar waith os nad yw ffordd liniaru'r M4 yn mynd i gael ei hadeiladu, gan fod hyn, wrth gwrs, yn bryder gwirioneddol i'r sector adeiladu a seilwaith.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:45, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Buaswn yn cytuno â'r Aelod fod gwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn gwbl hanfodol. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch dyraniadau cyllid ar gyfer prosiectau seilwaith yn y tymor byr, ond o ran y cynlluniau tymor hwy, dyna'r union reswm pam y sefydlasom Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru i asesu ac i nodi beth sydd orau ar gyfer y wlad, ac yna i Lywodraeth Cymru gynllunio a chyhoeddi cynlluniau buddsoddi ar gyfer y tymor hwy. Rwy'n bwriadu sicrhau bod y gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau, ond mae'n deg dweud bod gwaith cychwynnol y comisiwn seilwaith cenedlaethol wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar ymgysylltu ac asesu.

Credaf ei bod yn iawn fod y comisiwn wedi rhoi amser i gyfarfod ag amryw randdeiliaid—rhestr helaeth o randdeiliaid, rhaid dweud—ac i asesu pa un o'r ymyriadau seilwaith mawr y gall y Llywodraeth eu gwneud a all ddarparu'r canlyniadau gorau, yn enwedig mewn byd sy'n newid yn gyflym lle rydym yn mynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd, lle rydym yn gweld mathau newydd o yriant pŵer yn cael eu cyflwyno i gerbydau, lle rydym yn gweld dulliau a moddau newydd o drafnidiaeth, a lle rydym yn gweld natur trafnidiaeth yn newid o symud o A i B i fod yn wirioneddol symudol, ac o fod yn symudol, bod mewn sefyllfa i weithio neu mewn sefyllfa hamdden.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:46, 8 Mai 2019

Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Diolch, Llywydd. Weinidog, fel y dywedais i yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, mae dathlu 20 mlynedd o ddatganoli yn gyfle i asesu 20 mlynedd o'r Cynulliad, ein Senedd genedlaethol ni sy'n llais i bawb, wrth gwrs, ac mae o'n gyfle i edrych yn ôl ar 20 mlynedd o waith Llywodraeth Cymru. O ran Plaid Cymru, mi fuom ni mewn Llywodraeth am bedair blynedd yn dal y brîff economi. Dwi'n falch iawn o'r hyn a wnaeth fy rhagflaenydd i, Ieuan Wyn Jones, yn cynnwys gwthio rhaglenni ProAct a ReAct a wnaeth gymaint, ar y pryd, i liniaru rhai o effeithiau gwaethaf yr argyfwng ariannol ar y pryd. Ond pedair blynedd allan o 20 oedd hynny—20 mlynedd wedi eu harwain gan Lywodraeth Lafur. Sut ydych chi yn gallu egluro bod cyfoeth cymharol Cymru wedi mynd lawr dros yr 20 mlynedd diwethaf o dan eich arweinyddiaeth chi?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:47, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Gadewch i ni edrych ar rai o'r ffeithiau cyffredinol a phwysig sydd wedi effeithio ar yr economi yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, a sut rydym wedi gallu llywio economi Cymru i gyfeiriad gwahanol iawn i'r cyfeiriad yr aed iddo yn ôl yn y 1980au a'r 1990au cynnar. Yn yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld nifer y bobl yng Nghymru heb gymwysterau yn gostwng o fwy nag un o bob tri i lai nag un o bob pump. O ganlyniad, mae gennym bellach gyfradd is na chyfartaledd y DU o ran anweithgarwch cyflogaeth. A allem fod wedi dychmygu hynny yn y 1990au, pan roedd ein cyfraddau bron ddwywaith cymaint â chyfartaledd y DU?

Heddiw, mae gennym 300,000 yn fwy o bobl mewn gwaith nag a oedd gennym yn 1999, yn bennaf oherwydd ymyriadau Llywodraeth Lafur Cymru dros y blynyddoedd hynny. Ac efallai mai un o'r rhaglenni mwyaf llwyddiannus a roddwyd ar waith gennym yn ystod datganoli yw rhaglen a seiliwyd ar un a gyflwynwyd gan Lywodraeth Gordon Brown yn San Steffan, ond a gafodd ei diddymu wedyn gan Lywodraeth Geidwadol Cameron, sef Twf Swyddi Cymru. Cynorthwyodd Twf Swyddi Cymru filoedd ar filoedd o bobl ifanc i osgoi diweithdra hirdymor.

Yn ystod y cyfnod rhwng 2010-15, gallwch gymharu rhannau o Gymru â rhannau o Loegr. Cododd diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc 2,000 y cant mewn rhai rhannau o Loegr yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd y ffigur yma yng Nghymru yn llai na 100 y cant, sy'n dal i fod yn rhy uchel o lawer, ond mewn sawl rhan o Loegr a'r Alban, gwelsom ddiweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc yn codi gannoedd os nad miloedd y cant. Fe wnaethom ni achub gobeithion, dyheadau a gyrfaoedd miloedd o bobl ifanc ar ôl 2008, a hyd heddiw, rydym yn dal i weithredu cynllun llwyddiannus iawn sy'n rhoi gobaith a chyfleoedd i lawer o bobl ifanc.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:49, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Ac mae unrhyw ystadegyn sy'n cyfeirio at lwyddiant i'w groesawu. Mae'n rhaid i mi ddweud bod yna elfen o chwarae bingo yma yr wythnos hon. Ystadegyn yr wythnos yw cyfraddau anweithgarwch economaidd. Hwn oedd yr un a ddefnyddiwyd gan y Prif Weinidog yn ei araith i nodi 20 mlynedd o ddatganoli ddoe ac fe'i defnyddiwyd gan y Gweinidog Brexit ar y teledu neithiwr, felly mae'n amlwg ei fod yn rhan o friffiau Llafur ar gyfer wythnos yr ugeinfed pen-blwydd. Rwy'n eich llongyfarch ar ddod o hyd i'r ystadegyn hwnnw sy'n edrych yn ffafriol. Mae lefelau diweithdra sylfaenol yn ffefryn arall i sôn amdano, ac a wyddoch chi beth? Gallwn ddathlu, wrth gwrs, bob tro y bydd rhywun yn sicrhau cyflogaeth, ond unwaith eto, nid yw'r cyfraddau diweithdra hynny'n adrodd y stori lawn. Nid ydynt yn adrodd hanner y stori. Gwyddom fod tangyflogaeth yn dal i fod yn endemig a bod cyflogau isel yn dal i fod yn endemig. Gwyddom fod Llafur yn parhau i fethu mewn meysydd allweddol fel cynyddu cyflogau a chynhyrchiant. Gadewch i ni edrych ar gynhyrchiant yn gyflym. Mae Cymru i lawr ar waelod y rhestr o 12 gwlad a rhanbarth y DU o ran gwerth ychwanegol gros am bob awr a weithiwyd. Rydym bob amser yn agos at y gwaelod o dan eich arweinyddiaeth chi. Oes, mae gwelliant wedi bod o ran gwerth ychwanegol gros yng Nghymru yn ddiweddar, ond nid yw'n ddigon o bell ffordd i newid safle Cymru ar y rhestr honno. Pam na all Llafur ddatrys hyn?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:50, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Soniodd am chwarae bingo yr wythnos hon; caiff 'full house' gennyf fi. Gadewch i ni sôn am werth ychwanegol gros, ie? Mae gennyf ffigur gwych y gallaf ei ddyfynnu yma. Ers datganoli, gan Gymru y gwelwyd y pumed cynnydd uchaf mewn gwerth ychwanegol gros y pen o gymharu â 12 o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Gadewch i ni siarad am werth ychwanegol gros am bob awr a weithiwyd. Ers 2011, sef y flwyddyn, wrth gwrs, y cawsom Lywodraeth Lafur yn unig yng Nghymru unwaith eto, mae twf cynhyrchiant Cymru wedi bod yn uwch na holl wledydd a rhanbarthau'r DU. Symudaf ymlaen. Diweithdra: cafwyd gostyngiad o 31,000 o ran nifer y bobl ddi-waith dros yr 20 mlynedd diwethaf. Y ffigur rhwng hynny, 270,000 o ran gweithgarwch pobl nad oeddent yn weithgar ym 1999, ond y gallasom eu hyfforddi i feithrin y sgiliau er mwyn cael gwaith ac i aros mewn gwaith hefyd. Ac mae'n werth dweud bod cyfraddau diweithdra wedi gostwng yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU ers datganoli. Credaf mai'r ffigur yw oddeutu 3.3 y cant i lawr yng Nghymru, o gymharu â 2 y cant yn unig ledled y DU.

Wrth gwrs, mae tangyflogaeth yn un o brif bryderon Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid iddi fod. Mae'n rhaid mai dyna'r amcan mawr nesaf—sicrhau bod pobl yn cael eu cyflogi ar y lefel y mae eu sgiliau yn galluogi iddynt gael eu cyflogi arni ac i sicrhau eu bod yn cael cyflog teg am y gwaith hwnnw. Dyna pam y sefydlasom y Comisiwn Gwaith Teg. Mae'r Comisiwn Gwaith Teg bellach wedi cyflwyno'i adroddiad. Mae'r Comisiwn Gwaith Teg wedi gwneud gwaith rhagorol o ran asesu natur gwaith yn y dyfodol, a byddwn yn edrych ar bob argymhelliad a'r broses o weithredu'r argymhellion hynny, er mwyn sicrhau ein bod yn gwella ansawdd, cynaliadwyedd a diogelwch a thâl am waith yng Nghymru.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:52, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Er mwyn parhau â'r gyfeiriadaeth fingo, os mynnwch, credaf fod Llywodraeth Cymru yn edrych i lawr pan ddylem fod yn edrych i fyny. A golyga'r pwynt rydym yn dechrau ohono ar y daith hon fod yn rhaid inni anelu'n uwch. Rydych yn crybwyll ffigurau gwell yng Nghymru, ond fel y dywedais, nid yw hynny'n ddigon i'n symud i fyny'r rhestr honno. Rydym yn dal i fod yno ar y gwaelod.

Nid oes unrhyw amheuaeth gennyf y bydd yr amgylchedd yn un o themâu pwysig 20 mlynedd nesaf datganoli, a bydd cryn dipyn o ryngweithio rhwng yr amgylchedd a'ch briff chi, yr economi a thrafnidiaeth. Rwyf am edrych ar gymudo yn gyflym. Mae cymudo bellach yn cymryd mwy o amser nag 20 mlynedd yn ôl. Er bod mwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol, mae traffig ceir wedi cynyddu 12 y cant ers 1999, gan gynyddu'n gyflymach na thwf y boblogaeth. Nid yw pethau'n edrych yn wych ar gyfer y dyfodol. Mae cael gwared ar y tollau ar bont Hafren wedi gwaethygu'r traffig. Credaf y byddai llwybr du'r M4 yn anochel yn arwain at fwy o draffig. Ond rwy'n synhwyro uchelgais yn y Cynulliad fel corff i weithredu. Dro ar ôl tro, clywn alwadau o fy meinciau ac o feinciau eraill am symud ymlaen go iawn ar deithio llesol. Mae'r Cynulliad hwn wedi rhoi deddfwriaeth wych i Lywodraeth Cymru allu gweithio ohoni. A yw'r Gweinidog, yn y cyd-destun hwnnw, yn derbyn, o ran y rhyngweithio rhwng yr amgylchedd a'r economi a thrafnidiaeth, fod bwlch clir yn bodoli o hyd rhwng dyhead y Cynulliad i weithredu a gallu'r Llywodraeth i wneud hynny?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:54, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Ddim o gwbl, ddim o gwbl. Rwy'n gwrthod hynny'n llwyr. Ac i ddychwelyd at y pwynt cyntaf, y pwynt fod angen i ni edrych i fyny: dyna'n union rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud. Dyna pam y llwyddasom i gyflawni'r canlyniadau syfrdanol o ran lleihau anweithgarwch economaidd, gwella rhagolygon swyddi, gwella lefelau sgiliau. Ac efallai mai'r blaid y mae'r Aelod yn ei chynrychioli a ddylai edrych i fyny gydag ychydig mwy o uchelgais, ac yn hytrach na beirniadu Llywodraeth Cymru yn llwyr ac yn rheolaidd am ddenu cwmnïau fel Aston Martin, sydd ymhlith y cwmnïau gorau y gallwch eu cael yn y sector modurol, dylid dathlu'r mathau hynny o fuddsoddiadau.

Nawr, o ran yr argyfwng hinsawdd, roedd fy adran eisoes yn gwneud gwaith rhagorol ar leihau'r cyfraniad y mae trafnidiaeth yn ei wneud i'n hôl troed carbon cyffredinol. Mae gennym dargedau hynod uchelgeisiol, gan gynnwys fflyd fysiau a thacsis dim allyriadau yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Bydd cant y cant o'r trydan a ddefnyddir ar reilffyrdd craidd y Cymoedd yn y fasnachfraint newydd yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, a bydd 50 y cant ohono yn dod o Gymru. Fe ddatblygasom gynllun gweithredu economaidd gyda datgarboneiddio yn ganolog iddo; dyna pam fod datgarboneiddio yn un o bedwar maen prawf y contract economaidd. Ni fyddwch yn sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru oni bai eich bod yn gallu dangos sut rydych yn datgarboneiddio eich busnes. Mae hynny'n ymrwymiad enfawr i'w wneud, ac mae'n dangos pam roedd ein hadran, mewn sawl ffordd, ar flaen y gad.

Ond o ran prosiectau ffyrdd ac o ran teithio llesol, rydym eisoes wedi dyrannu £16 miliwn yn ychwanegol ar gyfer teithio llesol. Ac o ran y seilwaith ffyrdd, wrth gwrs, bydd yn rhaid inni wneud llawer o benderfyniadau anodd ynglŷn â llawer o wahanol ffyrdd wrth inni ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Buaswn yn gwahodd pob Aelod i ystyried hyn: mae ffordd liniaru'r M4 sy'n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru yn gynllun ffordd a fydd yn garbon niwtral dros ei hoes. A yw pob cynllun ffordd arfaethedig arall ledled Cymru, ym mhob rhan o Gymru, yn garbon niwtral, neu a ydynt yn waeth? Os ydynt yn waeth, a fyddai'r Aelodau sy'n eu cefnogi yn rhoi'r gorau i'w hyrwyddo?

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, credaf ei bod yn wir dweud bod myfyrwyr prifysgol yn aml yn cael eu portreadu mewn ffordd negyddol, ond oni ddylem gydnabod bod llawer o feysydd lle mae myfyrwyr o bob rhan o'r sbectrwm academaidd yn dangos blaengarwch ac egni, yn aml y tu allan i'w cwricwlwm penodol? Mae'n galonogol felly fod myfyrwyr o Gymru wedi perfformio'n well na myfyrwyr mewn rhannau eraill o'r DU o ran sefydlu eu busnesau eu hunain. Felly, a ydych yn cytuno y dylem ddathlu'r ffaith bod hyd at 13 y cant o fyfyrwyr Cymru yn gadael ac yn sefydlu eu busnesau eu hunain, a bod y ffigur hwn yn fwy nag unrhyw ran arall o'r DU?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:57, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr ac yn dathlu'r ffaith bod gan Gymru gyfradd uwch o entrepreneuriaeth graddedigion mewn busnesau newydd nag unrhyw le arall. Dyma'r gyfradd uchaf yn y DU—nid oes gan unrhyw ran arall o'r DU gyfradd uwch—ac mae hynny'n bennaf oherwydd yr ymyriadau y mae prifysgolion yn eu gwneud, wrth gwrs, yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth â'r Llywodraeth—yr hyn a wnawn, er enghraifft, drwy Syniadau Mawr Cymru, a gynlluniwyd i ysbrydoli pobl ifanc pan fyddant yn yr ysgol i fod yn entrepreneuriaid ac i fod yn berchen ar eu busnes eu hunain ac i weithredu eu busnes eu hunain.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am hynny. Mae rhai beirniaid yn tynnu sylw at y ffaith bod cymaint â 44 y cant o'r busnesau newydd hyn yn methu, a bod darpar entrepreneuriaid yn dilyn y llwybr hwn am nad ydynt yn gallu dod o hyd i gyflogaeth addas. Ond a yw'n wir dweud bod llawer o fusnesau yn methu, busnesau nad ydynt yn cael eu cychwyn gan fyfyrwyr, ac y dylem gydnabod hefyd y gellir dysgu llawer o bethau drwy fethu? Mae llawer o resymau dros fethiant busnes, ond mae'n debyg mai'r peth mwyaf cyffredin yw ymchwil gwael i'r farchnad a diffyg cyfalaf. Er fy mod yn cydnabod bod y Llywodraeth wedi sefydlu ffynonellau cyngor a chyfalaf, yn enwedig drwy Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, a ydym yn gwneud digon i ddod â phrifysgolion a'r ddau sefydliad hwn at ei gilydd, er mwyn cael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i'r entrepreneuriaid ifanc hyn?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:58, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn codi nifer o bwyntiau pwysig, yn gyntaf oll ynghylch deallusrwydd economaidd a'r rôl sydd gan Fanc Datblygu Cymru yn hyn o beth. Mae ganddo uned wybodaeth economaidd sy'n gallu asesu tueddiadau'r farchnad a thueddiadau cwsmeriaid mewn amrywiaeth o wahanol amgylcheddau ac ar draws gwahanol sectorau. Mae angen i wybodaeth economaidd o'r fath gael ei defnyddio, wrth gwrs, gan brifysgolion a chan fyfyrwyr mewn prifysgolion pan fyddant yn ystyried dechrau eu busnesau, ond yn yr un modd, mae rôl gan Gyrfa Cymru i'w chwarae. Roeddwn wrth fy modd ar ddechrau'r mis wrth lansio Cymru'n Gweithio, sy'n wasanaeth cyngor cyfunol; yn y bôn, mae'n ddrws blaen i unrhyw un sy'n awyddus i gael cyngor gyrfaoedd allu cael mynediad at gyngor arbenigol a phroffesiynol mewn modd amserol. Yn aml, gall hynny arwain at atgyfeiriad at Busnes Cymru. Felly, erbyn hyn, mae gennym Gyrfa Cymru a Busnes Cymru yn gweithredu ar y cyd i raddau helaeth, gan blethu dros entrepreneuriaeth.

Mae Busnes Cymru wedi bod yn hynod o lwyddiannus yn cynorthwyo busnesau i gychwyn dros y blynyddoedd diwethaf, a bellach mae gennym y nifer fwyaf erioed o fusnesau yng Nghymru. Rydym yn hynod o agos bellach at fod â 260,000 o fusnesau'n gweithredu yng Nghymru, ac mae gennym y nifer fwyaf erioed o fusnesau sydd â'u pencadlys yma yng Nghymru. Ond mae'r Aelod hefyd yn codi pwynt ynghylch cyfradd y busnesau sy'n methu, ac ofni methiant. Ni chredaf y dylai unrhyw un sy'n dechrau busnes ofni methiant, neu deimlo cywilydd am fethu. Mae methiant yn rhan o'r broses ddysgu mewn bywyd ac mae hynny'n cynnwys mewn busnes, ac ar hyn o bryd, mae cyfradd y busnesau sy'n methu yng Nghymru oddeutu 10.4 y cant. Ledled y DU, mae cyfradd y busnesau sy'n methu yn 13.1 y cant. Er mwyn cael economi ddynamig, mae'n rhaid i chi hefyd gael gwrthgiliad yn yr economi, ac am y rheswm hwnnw, buaswn yn dweud wrth unrhyw un sy'n ystyried dechrau busnes, 'Peidiwch ag ofni methiant, yn enwedig ar eich ymgais gyntaf', gan fod llawer o'r bobl fusnes fwyaf llwyddiannus yn ein gwlad wedi methu, ac nid unwaith yn unig, ond ar sawl achlysur.