Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 8 Mai 2019.
Byddaf yn cyfarfod â 'r comisiwn seilwaith cenedlaethol cyn bo hir. Byddaf yn trafod eu cylch gwaith a byddaf yn trafod eu blaenraglen waith. O gofio eu bod yn ystyried anghenion seilwaith yn y tymor hwy, rwy'n fodlon ar gyflymder y gwaith hyd yma. Fodd bynnag, hoffwn pe bai unrhyw waith a wneir o hyn ymlaen yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf cynhwysfawr posibl.