Hyfforddiant Sgiliau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 2:10, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, fis Ebrill eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cyllido £3 miliwn ar gyfer Sgiliau Bwyd Cymru, a fydd yn weithredol tan 2023, a thros y tair blynedd gyntaf, disgwylir i'r rhaglen hon gefnogi 650 o fusnesau. Weinidog, gyda sector bwyd a diod Cymru eisoes yn cynhyrchu £6.9 biliwn i economi Cymru, onid yw buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn arwydd o bwysigrwydd gwella sgiliau a'r hyn y gall hynny ei wneud i economi Cymru? A sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu'r gallu i ddenu a chadw gweithlu dawnus a gwella sgiliau yn y diwydiant hwn?