Maes Awyr Caerdydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:17, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, yn ddiweddar, cymeradwyais uwchgynllun ymgynghori drafft 2040 ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, sy'n nodi cyfleoedd i gynyddu nifer y busnesau sy'n gysylltiedig â chludo nwyddau. Dyma un o nifer o gyfleoedd i arallgyfeirio sylfaen fusnes y maes awyr ac i sicrhau ei gynaliadwyedd. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Maes Awyr Caerdydd i helpu i gyflawni uchelgeisiau uwchgynllun drafft 2040.