Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 8 Mai 2019.
Weinidog, mae'r maes awyr wedi wynebu ychydig o anawsterau yn ddiweddar—a chyhoeddiad Flybe yw'r gwaethaf. Nid wyf yn siŵr a fyddech wedi clywed bod Peter Phillips, cyn-uwch reolwr ym Maes Awyr Caerdydd a chyn-gynghorydd i feysydd awyr Brisbane ac Amsterdam, wedi dweud bod angen i Faes Awyr Caerdydd ddatblygu ei wasanaethau cludo nwyddau a'i barth busnes mewn ymateb i gyhoeddiad Flybe. O ran cludo nwyddau, mae wedi datgan y dylai maes awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr fod yn dempled ar gyfer y DU. Felly, a ydych yn edrych ar feysydd awyr eraill i ddysgu'r arferion gorau? Hefyd, mae hwn yn gyfnod pwysig i'r maes awyr, gan y bydd ei arweinyddiaeth yn newid cyn bo hir.